Cardiff Airport

Newyddion

bmibaby enterplanement

‘Hedloniant’ ar eich cyfer!

Cyhoeddwyd: 25 Chwefror 2011

Enillwyr cystadleuaeth ‘hedloniant’ bmibaby yn diddanu teithwyr yn hedfan o Faes Awyr Caerdydd

Llwyfannwyd noson o adloniant gan gwmni hedfan bmibaby i arddangos talent Caerdydd fel rhan o’r tymor hedloniant.

Cafodd teithwyr eu diddanu gan y delynores angylaidd, Hero Melia, a’r dewin ar y gitâr Sbaenaidd, Dewi Griffiths, yn y lolfa ymadael cyn dal eu hawyren i Faes Awyr George Best Dinas Belffast.  Ar yr awyren ei hun, perfformiodd y gantores Becky Barnbrook ddetholiad o ganeuon pop adnabyddus gan gynnwys rhai gan Pixie Lott a Queen.

Gellir gwylio uchafbwyntiau’r lolfa ymadael yma:

http://bit.ly/8ZcU4Q

Llwyddodd Becky Barnbrook, 20 oed o Gasnewydd, guro’r 8 oedd yn y rownd derfynol yn anrhydeddus i ennill cystadleuaeth hedloniant bmibaby yn dilyn gwrandawiadau a gynhaliwyd yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn Ionawr. Enillodd Becky bleidleisiau beirniaid bmibaby gyda’i llais grymus yn arddull Leona Lewis. Yn rhan o’i gwobr treuliodd Becky benwythnos yn Belffast yn dilyn ei pherfformiad ar nos Wener a bydd ganddi nifer anghyfyngedig o deithiau gyda bmibaby am flwyddyn.

Cafodd perfformiadau Dewi Griffiths, 22, o Gaerdydd a Hero Melia, 11, o Gapel Curig -  a ddaeth i rownd derfynol sioe dalent Sky 1 ‘Must Be The Music’ – eu canmol yn fawr yn y gwrandawiadau. Wedi creu gryn argraff ar y panel beirniaid, DJ Mike Jordan o Capital FM De Cymru, peilot bmibaby Paul Jones a’r blogiwr lleol Beth Charlesworth, cytunodd y tri y byddai cwsmeriaid bmibaby hefyd yn mwynhau eu perfformiadau swynol a chawsant wobr o ddau docyn yr un i unrhyw leoliad yn rhwydwaith bmibaby ynghyd â’r cyfle i berfformio yn lolfa ymadael Maes Awyr Caerdydd.

Roedd Becky wrth ei bodd gyda’r holl sylw yn ystod ei pherfformiad ar yr awyren gan nodi: “Roedd pawb yn ymuno yn y canu, roedd o mor cŵl!”

Cafodd y digwyddiad anghyffredin groeso gan y cwsmeriaid a’r criw oedd yn gweini. Dywedodd rheolwr caban bmibaby, Scott Barnet:

“Roedd y cwsmeriaid i’w gweld yn mwynhau’n arw! Roedd yn braf cael rhywbeth gwahanol ar fwrdd yr awyren.”

Bwriad ‘Hedloniant’ yw i ysbrydoli teithwyr ac i godi ymwybyddiaeth am artistiaid lleol a busnesau mewn canolfannau a lleoliadau allweddol i bmibaby. Yn y gorffennol trefnodd bmibaby ddwy awyren hedlonaint, gyda pherfformiad rhagorol gan Opera’r Wladwriaeth o Prague ynghyd â pherfformiad ar y ffidil gan Collegium Ducalle o Fenis.

Mae bmibaby yn hedfan o Gaerdydd i 11 lleoliad gan gynnwys Malaga, Palma, Ibiza, Faro, Belffast, Caeredin, Jersey, Geneva, Mahon, Alicante, Murcia. 

Mae pytiau o holl berfformiadau rownd derfynol hedloniant nawr ar gael ar sianel YouTube bmibaby ynghyd â’u tudalen Facebook, ac mae bmibaby hefyd i’w gweld ar Twitter: 

http://www.youtube.com/bmibaby
http://on.fb.me/aOvCZ1
http:www.twitter.com/bmibaby_com

News menu