Croesawu cwmni awyrennau newydd
Cyhoeddwyd: 03 Tachwedd 2010
Cyhoeddodd Maes Awyr Caerdydd heddiw fod y cwmni awyrennau o’r Swistir, Helvetic Airways, yn lansio gwasanaeth newydd o Gaerdydd i Zurich.
O fis Mawrth 2011 bydd teithwyr yn gallu hedfan yn uniongyrchol o Gaerdydd i Zurich bedair gwaith yr wythnos. Bydd y teithiau yn gadael Caerdydd ar ddyddiau Llun, Mercher, Iau a Gwener.
Bydd y gwasanaeth yn defnyddio awyren Fokker 100 sedd a dyma'r gwasanaeth cyntaf yn hanes y maes awyr fydd yn hedfan yn uniongyrchol i Zurich. Bydd yn wasanaeth unigryw fydd yn denu teithwyr i mewn ac allan o Gymru yn ogystal â de orllewin Lloegr.
Meddai Patrick Duffy, Rheolwr Gyfarwyddwr Maes Awyr Caerdydd: "Rydym yn hynod falch o gael croesawu Helvetic i Faes Awyr Caerdydd.
"Bydd y gwasanaeth newydd yn cynnig cyswllt cyflym a chyfleus i un o gyrchfannau mwyaf deniadol Ewrop i’n cwsmeriaid ac rydym yn obeithiol y bydd ein cwsmeriaid, yn enwedig teithwyr o fyd busnes yma yng Nghymru, yn ei groesawu.
"Dangosodd gwaith ymchwil gan y maes awyr fod Zurich yn gyrchfan busnes y mae galw mawr am allu ei gyrraedd o Gymru, ac felly, yn dilyn misoedd o waith caled, rydym yn hynod falch fod Helvetic Airways wedi penderfynu cynnig y gwasanaeth yma i deithwyr o dde Cymru.
"Nid yn unig mae Zurich yn un o’r prifddinasoedd ariannol mwyaf yn Ewrop, mae hefyd yn ddinas arbennig ar gyfer hamddena ynddi. Mae'r gwasanaeth yma yn cynnig ystod eang o gyfleoedd gwyliau newydd i’n cwsmeriaid, boed am wyliau yn y ddinas, yn cerdded neu yn sgïo."
Ychwanegodd Prif Swyddog Gweithredol Helvetic Airways Bruno Jans: "Rydym yn falch o gael cyhoeddi y cyswllt hedfan uniongyrchol rhwng Zurich a Chaerdydd, a fydd yn galluogi ymwelwyr o’r Swistir i ddarganfod Cymru a hefyd gynnig cyswllt hwylus i deithwyr busnes o Gymru a’r Swistir.
Fe'n argyhoeddwyd gan ein gwaith ymchwil y bydd y gwasanaeth yma'n darparu'r hyn y bu’r farchnad yn ei ddymuno. Rydym yn edrych ymlaen at gael croesawu gwesteion o Gymru ar fwrdd yr awyren er mwyn rhoi cyfle i ni ddangos safonau uchel hedfan y Swistir ynghyd â’r gwasanaeth cyfforddus a safonol sydd eisoes yn gyfarwydd i’n teithwyr rheolaidd yn y Swistir."
Dywedodd Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones, "Rydw i'n hynod o falch i glywed fod Helvetic Airways am ddarparu gwasanaeth newydd a chyffrous o Zurich i Faes Awyr Caerdydd ac yn edrych ymlaen i groesawu llawer o ymwelwyr newydd a busnesau i’n gwlad bob blwyddyn. Buom yn gweithio’n galed dros y blynyddoedd diweddar i greu cwlwm cryf rhwng y ddwy genedl a gan bod nifer o gwmnïau o’r Swistir eisoes wedi ymsefydlu yma, ni all newyddion heddiw ond gwella ein perthynas ymhellach."
Yn cael ei disgrifio gan Lonely Planet yn 'fywiog, cyfoes ac ysblennydd' ac yn un o’r pump dinas mwyaf dymunol yn y byd i fyw ynddi, mae Zurich yn fwy na phrifddinas bancio yn unig, mae hefyd yn lleoliad gwyliau o’r radd flaenaf.
Bydd Helvetic Airways yn cynnig teithiau un ffordd o £99, sy'n cynnwys trethi a thaliadau, am gyfnod cyfyngedig. Gall cwsmeriaid archebu teithiau i Zurich o Gaerdydd o 03 Tachwedd 2010 mewn Ffrancs y Swistir, neu mewn Sterling o 15 Tachwedd 2010. Gellir prynu’r tocynnau ar-lein o www.helvetic.com.