bmibaby yn cyhoeddi gwasanaeth newydd
Cyhoeddwyd: 04 Tachwedd 2010
Cyhoeddodd bmibaby wasanaeth newydd fel rhan o’i raglen hedfan ar gyfer haf 2011. Bydd y cwmni awyrennau yn gweithredu gwasanaeth rhwng Maes Awyr Caerdydd ac Ibiza.
Bydd y teithiau newydd yn dechrau ar 28 Mai 2011. bmibaby yw'r unig gwmni awyrennau pris isel i weithredu teithiau o Faes Awyr Caerdydd i Ibiza.
| Taith |
Dyddiad dechrau |
Dyddiau gweithredol |
| Caerdydd – Ibiza |
28 Mai 2011 |
Mercher a Sadwrn |
Dywedodd Julian Carr, Rheolwr Gyfarwyddwr, bmibaby: "Rydym yn falch o gael cyhoeddi llwybr newydd ar rwydwaith bmibaby o Faes Awyr Caerdydd. Mae'n newyddion gwych i'r ardal ein bod yn ehangu ein rhwydwaith deithiau.
"Bydd y gwasanaeth yn dechrau ar 28 Mai 2011 a bydd yn sicr o fod yn hynod boblogaidd. Yn ogystal â bod yr ynys ddelfrydol ar gyfer partïon, mae Ibiza yn wych ar gyfer teuluoedd, gyda milltiroedd o draethau euraidd a phensaernïaeth syfrdanol yn yr hen dref."
"Bydd bmibaby nawr yn gweithredu 12 gwasanaeth o Faes Awyr Caerdydd. Rydym wedi ymrwymo i gynnig prisiau isel i’n cwsmeriaid i hedfan i ddewis eang o leoliadau o’u maes awyr lleol."
Am fwy o wybodaeth am bmibaby neu i archebu tocyn, ewch i www.bmibaby.com.