Cardiff Airport

Newyddion

NewquayHarbour

Cernyw nawr ond hanner awr o Gaerdydd

Cyhoeddwyd: 12 Tachwedd 2010

Mae Cernyw nawr o fewn hanner awr o siwrne o Gaerdydd diolch i wasanaeth newydd gan y cwmni awyrennau rhanbarthol Air Southwest.

Mae Air Southwest yn lansio gwasanaeth dyddiol o Gaerdydd i Newquay ar 4 Ionawr y flwyddyn nesaf. Eisoes mae modd archebu tocynnau ar  www.airsouthwest.com.

Yn Newquay mae rhai o draethau syrffio gorau'r DU ac yn ddiweddar llwyddodd Cernyw i ennill dwy fuddugoliaeth yng Ngwobrau Teithio Prydain gan gael ei henwi y sir wyliau orau yn y DU a'r llecyn gwyliau poblogaidd St Ives yn cael ei choroni fel y dref lan môr orau.

Meddai Mike Coombes, Cyfarwyddwr Masnachol Air Southwest: "Mae Cernyw yn ardal ardderchog i ymweld â hi unrhyw adeg o’r flwyddyn gyda gwesteiau o’r radd flaenaf, traethau bendigedig, llwybrau cerdded ardderchog a bwyd gwych.
 
"Mae Newquay ei hun yn Fecca ar gyfer syrffio ac yn fan gwyliau gwych ar gyfer y teulu cyfan, ac ond ychydig funudau ydy Maes Awyr Newquay o Watergate Bay Resort, cartref i fwyty Fifteen Cornwall a ysbrydolwyd gan Jamie Oliver.
 
"Mae ein gwasanaeth ni yn ddelfrydol ar gyfer gwyliau byr, gan gwtogi mwy na thair awr oddi ar y daith gyfatebol mewn car neu fws."

Ychwanegodd Patrick Duffy, Rheolwr Gyfarwyddwr Maes Awyr Caerdydd: "Rydym yn falch o gael Air Southwest yn ôl yng Nghaerdydd a hefyd i weld y gwasanaeth newydd i Newquay. Mae'r gwasanaeth yn cynnig gwir ddewis arall yn hytrach na’r daith hir ar drên neu mewn car neu fws, sydd yn newyddion da i deithwyr hamdden a busnes yn ne Cymru ac yng Nghernyw."

Yn ogystal â meddu ar rai o olygfeydd mwyaf syfrdanol y DU, mae Cernyw yn gartref i atyniadau o safon byd-eang megis yr Eden Project a'r  Tate St Ives ac mae yno ddewis gwych o fannau i fwyta, yfed, ymlacio a chael hwyl.

Bydd teithiau Air Southwest o Gaerdydd i Newquay yn dechrau ar 4 Ionawr y flwyddyn nesaf gyda'r prisiau o £39 sy'n cynnwys trethi, taliadau a chost bagiau, ac ar gael o www.airsouthwest.com. Mae gan Avis, partner llogi ceir Air Southwest, gerbydau ar gael i’w llogi ym Maes Awyr Newquay.

News menu