Arbenigwyr ar Dwrci yn cynnig mwy o ddewis
Cyhoeddwyd: 16 Awst 2010
Mae’r trefnwyr gwyliau sy’n arbenigo ar Dwrci, Holidays 4U yn cynnig mwy o ddewis o wyliau i’r wlad yn haf 2011 i deithwyr o Gymru.
Bu'r wlad, sydd y tu allan i ardal yr Ewro, yn hynod boblogaidd gyda theithwyr o Gymru dros y flwyddyn ddiwethaf ac o’r herwydd mae Holidays 4U wedi ymateb i'r galw pellach drwy gynnig pecynnau ar gyfer haf 2011 i Dalaman, gyda theithiau hedfan ar gael bob dydd Sadwrn o 07 Mai i 29 Hydref 2011.
Dywedodd Joe Lavers, Cyfarwyddwr Gwethiant a Marchnata Holidays 4U: "Fel rhan o’n cynlluniau i ehangu rydym yn credu fod marchnad yng Nghymru ar gyfer gwyliau rhesymol i Dwrci gyda chwmni gwyliau sy’n arbenigo yn y wlad ers 17 mlynedd.
Byddem yn gwerthu gwyliau i’r ardaloedd mawr, adnabyddus i gyd yn ogystal â llefydd llai, sydd heb ddatblygu cymaint, ac yn ehangu ar ein arbenigedd sef llety 3 seren, trwy ychwanegu mwy o ddewisiadau 4* a 5* yn cynnwys gwestyau a phentrefi gwyliau. Rydym hefyd yn parhau i gynnig bargeinion gwych i deuluoedd ar wyliau hunanarlwyol gan gynnig llefydd am ddim neu gostyngiadau i blant."
"Mae Twrci yn wlad arbennig i dreulio gwyliau ynddi gyda thraethau bendigedig, tywydd gwych ynghyd â hanes a diwylliant cyfoethog, ac felly 'dyw hi ddim syndod bod teithwyr yn heidio yno. Rydym yn cynnig bargeinion gwych yn gadael o Gaerdydd gan gynnwys 2* Gwely a Brecwast am £252yp, 4* Hollgynhwysol am £338yp, a hunanarlwyol ar gyfer teulu o bedwar (2 oedolyn, 2 blentyn) am gyfanswm o £799, i gyd yn gadael ar 07 Mai 2011. Mae'r prisiau yn cynnwys teithiau hedfan, llety, cludiant a bagiau yn pwyso hyd at 15kg y pen."
Ychwanegodd Spencer Birns, Pennaeth Datblygu Gwasanaethau Hedfan Maes Awyr Caerdydd: "Rydym yn falch o weld Holidays 4U yn ymateb i'r galw am wyliau y tu allan i ardal yr Ewro.
Mae'r gystadleuaeth sydd rhwng amrywiol drefnwyr ar y llwybrau yma yn golygu y bydd prisiau yn parhau yn ddeniadol i’r cwsmeriaid hynny sy'n awyddus i ymweld â'r ardal yr haf nesaf gan hedfan o'u maes awyr lleol."
Gellir archebu gwyliau trwy asiantau teithio annibynnol neu ar lein yn www.h4u.co.uk.