Cyngor y Fro i ddarparu cymorth mewn argyfwng
Cyhoeddwyd: 13 Gorffennaf 2010
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi sefydlu gwasanaeth cyswllt mewn argyfwng newydd ar gyfer Maes Awyr Caerdydd.
Mae canolfan gyswllt y cyngor, C1V (Contact One Vale), yn darparu gwasanaeth argyfwng 24 awr, saith diwrnod yr wythnos i drigolion lleol a hon yw’r ganolfan gyswllt gyntaf a ddarparwyd gan gyngor ar gyfer y math yma o wasanaeth i’r sector preifat.
Dywedodd arweinydd Cyngor y Fro, y Cynghorydd Gordon Kemp: "Bob wythnos bydd ein canolfan gyswllt yn ymdrin â channoedd o alwadau gan drigolion y Fro yn holi am wasanaethau’r cyngor. Mae C1V hefyd yn cynnig gwasanaeth argyfwng 24/7 i drigolion ac rydym nawr yn falch o gael cydweithio gyda’r maes awyr i gynnig y gwasanaeth cyswllt mewn argyfwng yma. Mae’n cynrychioli datblygiad pwysig yng nghefnogaeth y cyngor i gyflogwyr lleol yn ogystal â buddiannau ein cymuned."
Pe byddai digwyddiad o bwys mawr yn digwydd yn y maes awyr, y ganolfan gyswllt fyddai’r man cyntaf i berthnasau pryderus, teithwyr a’r cyfryngau gysylltu ag ef. Byddai C1V hefyd yn dod i’r adwy fel canolfan gyswllt mewn argyfwng i’r maes awyr pe byddai tarfu o bwys ar deithiau hedfan, fel yn achos yr argyfwng cymylau llwch diweddar. Bydd y gwasanaeth a ddarperir gan y cyngor yn sicrhau y bydd trigolion a theithwyr yn derbyn gwybodaeth gywir yn gyflym ac yn effeithiol, gan ganiatáu i staff y maes awyr ymateb yn effeithlon i’r digwyddiad.
Pe byddai trychineb hedfan yn digwydd bydd y trefniadau yma’n hwyluso’r cydlynu rhwng C1V, Maes Awyr Caerdydd a Chanolfan Ddamweiniau'r Heddlu.
Meddai Avril Brown, Cynllunydd Cyfyngau Maes Awyr Caerdydd: "Mae staff y maes awyr a’r ganolfan wedi gweithio’n galed i sefydlu’r prosiect yma dros y misoedd diwethaf ac rydym yn hynod falch ei fod erbyn hyn yn weithredol. Mantais enfawr yw bod canolfan alw leol ar gael i ni, gyda phobl leol yn gweithio yno, a bu’n gryn gamp i sefydlu’r bartneriaeth yma.
Er bod gan y mwyafrif o gwmnïau hedfan y DU ganolfannau cyswllt mewn argyfwng eu hunain, gallai cael cefnogaeth wrth gefn o fewn tafliad carreg i gynorthwyo yn ystod oriau cyntaf tyngedfennol digwyddiad difrifol fod o fudd mawr i’r maes awyr."