Cardiff Airport

Newyddion

doz cym

Cyflwyno trefniadau newydd gollwng a chasglu teithwyr

Cyhoeddwyd: 05 Gorffennaf 2010

Mae gwaith adeiladu ar gynllun newydd y tu allan i derfynfa Maes Awyr Caerdydd wedi’i gwblhau ac o ddydd Llun, 5 Gorffennaf 2010 bydd mannau gollwng a chasglu arbennig yn dod i rym. Codir ffi o £1.

Bydd ymwelwyr â’r maes awyr yn cael dewis defnyddio’r mannau gollwng a chasglu arbennig y tu allan i’r derfynfa, neu gollwng a chasglu teithwyr am ddim ym maes parcio Arhosiad Hir 1, sydd ond ychydig funudau ar droed o’r derfynfa. 

Gosodwyd arwyddion priffyrdd newydd ar y ffyrdd sy’n arwain at y maes awyr ac ar y safle yn hysbysu teithwyr am y drefn barcio newydd ac yn rhoi gwybodaeth am y dewisiadau gollwng a chasglu.

Roedd y gwaith adeiladu’n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â chyngor y llywodraeth ar ofynion diogelwch mewn meysydd awyr oedd yn cynnwys cynyddu’r pellter rhwng cerbydau a’r derfynfa, ac o’r herywdd oedd yn golygu ailgynllunio’r cynllun presennol.   

Bydd ardal gollwng a chasglu am ddim ar gael yn y maes parcio a ailenwyd yn Arhosiad Hir 1, sef maes parcio Arhosiad Hir 2 blaenorol, a bydd cerbyd cymorth arbennig ar gael am ddim i gludo teithwyr â symudedd cyfyngedig. Mae’r 20 munud cyntaf am ddim, ac ar ôl hynny daw prisiau parcio arferol i rym.   

Caniateir mynediad i’r Man gollwng arbennig o flaen y derfynfa am hyd at 10 munud ar gost o £1, a hyd at 20 munud i ddeiliaid bathodynnau glas. Bydd y Man gollwng arbennig yn cael ei reoli gan rwystr, a bydd gofyn i bobl sydd am ddefnyddio’r gwasanaeth roi darn £1 yn y blwch ger y rhwystr wrth adael yr ardal o flaen y derfynfa.  

Bydd tâl o £1 yn sicrhau 20 munud i bobl sy’n casglu teithwyr o’r Man casglu arbennig yn y maes parcio arhosiad byr, sydd wedi ei leoli’n agos i’r derfynfa. Ar ôl 20 munud bydd prisiau parcio arferol yn dod i rym.   

Mae meysydd awyr eraill y DU gan gynnwys Birmingham, Caeredin, Newcastle a Luton Llundain i gyd yn gweithredu trefn debyg ar gyfer gollwng a chasglu teithwyr. 

Yn rhan o’r ailgynllunio mae’r meysydd parcio presennol wedi’u hailenwi a’u codio â lliwiau, ac mae arwyddion newydd wedi eu gosod:

  • Arhosiad hir 1 (gwyrdd) = Arhosiad hir 2
  • Arhosiad hir 2 (melyn) = Arhosiad hir 1

Dywedodd Margaret James, Pennaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid Maes Awyr Caerdydd: "Mae’r gwaith hwn yn rhan o ddatblygiadau hir dymor maes awyr cenedlaethol Cymru ac yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â chyngor diogelwch diweddaraf y llywodraeth.

"Gydag arwyddion newydd ar y ffyrdd sy’n arwain at y maes awyr ac ar y safle ei hun, cynlluniwyd y drefn newydd er mwyn cynnig dewis i’r rhai sy’n gollwng a chasglu teithwyr. Ni effeithir ar deithwyr sy’n defnyddio’r cyfleusterau parcio arhosiad hir gan y newidiadau hyn."

Dechreuodd y gwaith ym mis Ebrill ac fe’i cwblhawyd o fewn y tri mis a ddynodwyd ar gyfer y gwaith adeiladu.

News menu