Manx2.com yn cyflwyno gwefan newydd a phrisiau rhatach
Cyhoeddwyd: 07 Mehefin 2010
Heddiw, mae Manx2.com wedi lansio gwefan Gymraeg newydd i’w gwneud yn haws i siaradwyr Cymraeg archebu taith hedfan.
Mae’r Cwmni, y mae ei bencadlys ar Ynys Manaw, hefyd wedi cyflwyno prisiau is ar rai teithiau hedfan allfrig o fis Medi ymlaen. Gellir eu gweld trwy ddefnyddio gwasanaeth canfod prisiau isel y Cwmni, sy’n rhoi’r prisiau isaf sydd ar gael ar ffurf dangos "cip o'r mis cyfan".
Meddai’r cadeirydd, Noel Hayes: "Rydym yn hynod falch gydag ymateb cwsmeriaid i’r gwasanaeth o Ynys Môn i Gaerdydd. Mae niferoedd y teithwyr wedi bod yn uwch na’r hyn yr oeddem yn ei ddisgwyl ac rydym wedi sefydlu enw da yn sydyn iawn am ein gwasanaeth dibynadwy sydd ar amser, ac am safon ein gwasanaethau cwsmeriaid yn y farchnad leol.
"Mae nifer o deithwyr wedi cysylltu i ddweud cymaint o wahaniaeth y mae’r llwybr hwn wedi’i wneud i’w cynlluniau teithio a busnes, ac rydym wrth ein boddau ein bod yn gymorth i gysylltu’r gymuned. Rydym yn gobeithio y bydd lansiad ein gwefan Gymraeg a chyflwyno prisiau o £29 ar rai teithiau hedfan yn ehangu llwyddiant y gwasanaeth awyr hollbwysig hwn ymhellach."
Mae Manx2.com yn cyflogi 60 aelod o staff a chanddynt saith awyren sy’n darparu hyd at 30 taith hedfan y dydd yn Ynys Manaw a Chymru. Mae eu hadrannau gwasanaethau cwsmeriaid, archebion a gweithrediadau wedi’u lleoli yn y cyfleuster awyrendy ym Maes Awyr Ronaldsway.
Mae Manx2.com yn falch o fod yn gwmni bach o Ynys Manaw, sy’n cario 100,000 o deithwyr bob blwyddyn rhwng Ynys Manaw a Blackpool, Belfast, Leeds, Newcastle, Caerloyw a Jersey. Yn ddiweddar, cafodd wobr am yr ail dro mewn tair blynedd am fod y cwmni bach gorau ar yr ynys yng ngwobrau IOM Newspapers Excellence Awards.