Aeros yn glanio yng Nghaerdydd
Cyhoeddwyd: 18 Mai 2010
Bydd ysgol hedfan newydd yn cael ei hagor ym Maes Awyr Caerdydd gan y grŵp hyfforddi hedfan a chynnal a chadw Aeros, a disgwylir i’r daith gyntaf godi i’r awyr ar 1 Mehefin 2010.
Wedi'i leoli yn yr Adeilad Gwyn ar ochr ddeheuol y maes awyr, hwn fydd pumed prosiect busnes newydd Aeros mewn llai na thair blynedd, ac fe’i croesewir fel ychwanegiad at weithrediadau Maes Awyr Caerdydd.
Meddai Steve Hodgetts, cyfarwyddwr masnachol a datblygu busnes Maes Awyr Caerdydd: "Rydym yn croesawu Aeros i Faes Awyr Caerdydd ac yn edrych ymlaen i weithio gyda phartner newydd. Bu’r adnodd yma’w w w w n boblogaidd gyda pheilotiaid lleol yn y gorffennol ac rydym yn gobeithio gweld mwy o bobl sydd â diddordeb brwd mewn hedfan yn defnyddio’r ganolfan newydd yn y dyfodol."
Dywedodd cyfarwyddwr gweithrediadau Aeros, Nick Dunn: "Rydym yn hyderus y gallwn ni ddarparu gwasanaeth Hedfan Cyffredinol o’r radd flaenaf ar gyfer peilotiaid yn ne Cymru. Mae’r adnoddau yng Nghaerdydd yn ardderchog ac rydym yn edrych ymlaen i ddechrau gweithredu ar 01 Mehefin. Bydd peilotiaid lleol yn cael cyfle i ddefnyddio’r 25 awyren sy’n eiddo i Aeros gan gynnwys Piper Warriors/Arrows, Cessna 152's a'r Robins. Mae’r awyrennau yn cael eu cynnal yn Part 145 ac is ran Part M o eiddo Aeros, adnodd a gymeradwywyd gan y corff Cyffredinol a Diwydiannol (G&I), a hynny ym Maes Awyr Swydd Gaerloyw (Staverton) gan sicrhau y bydd unrhyw faterion technegol yn cael eu datrys yn brydlon".
Eisoes mae Aeros yn darparu hyfforddiant a llogi awyrennau personol ym Meysydd Awyr Swydd Gaerloyw, Bryste (Filton) a Wellesbourne Mountford (Swydd Warwick). Yn sgil y rhwydwaith yma sy’w w w w n ehangu gall Aeros gynnig amrywiaeth gynhwysfawr o drwyddedau a graddau o Drwydded Beilot Preifat (PPL) ar gyfer unigolion preifat i rai aml offer (MEIR) ar gyfer unigolion sydd am ddilyn gyrfa fel peilot i gwmnïau hedfan masnachol.
Ychwanegodd Dunn: "Mae gan yr adeilad sydd ar ochr ddeheuol Maes Awyr Caerdydd gaffi, digonedd o lefydd parcio am ddim a golwg wych o’r llain lanio. Estynnwn wahoddiad i unrhyw beilotiaid presennol neu ddarpar beilotiaid i alw heibio ar unrhyw adeg, saith diwrnod yr wythnos, neu i’n ffonio ni ar 01446 710000. Bydd croeso cynnes i gyfeillion a theuluoedd hefyd."