Teithwyr nawr yn gallu pori'r we cyn hedfan
Cyhoeddwyd: 12 Mai 2010
Mae Maes Awyr Caerdydd a’r cwmni Gwyddelig SurfBox wedi gosod cabanau rhyngrwyd newydd sbon yn y derfynfa, sy’n rhoi cyfle i deithwyr bori'r we cyn mynd ar eu hawyren.
Gosodwyd cyfanswm o saith caban rhyngrwyd yn y lleoliadau canlynol:
- Dau yn y neuadd gofrestru sydd hefyd yn gallu argraffu dogfennau
- Un yn y neuadd fwyd cyn mynd drwy’r System Ddiogelwch ar y llawr cyntaf
- Pedwar yn y lolfa ymadael
Cynlluniwyd y cabanau i ddarparu mynediad cyflym, dibynadwy i’r rhyngrwyd i’n teithwyr yn ystod eu cyfnod yn y maes awyr, a dangosodd "Adroddiad Arfer Gorau ar Fynediad i’r Rhyngrwyd" yn ddiweddar gan ASQ (Safonau Gwasanaeth Meysydd Awyr) fod 70% o feysydd awyr erbyn hyn yn darparu gwasanaeth cabanau rhyngrwyd.
Codir tâl o 10c y funud ar deithwyr i bori'r we, gyda thâl ychwanegol am argraffu.
Meddai Thomas Marry, rheolwr gyfarwyddwr Surfbox: "Hyd yn oed yn y dyddiau yma o gysylltiadau â’r rhyngrwyd ar ffonau symudol mae’r galw am gabanau rhyngrwyd mewn meysydd awyr a chanolfannau teithio eraill yn cynyddu. Gyda mwy o gwmnïau awyrennau yn gofyn i’w teithwyr gofrestru ar-lein gan argraffu eu dogfennau teithio eu hunain mae’n hawdd gweld pam fod y cynnydd yn y defnydd ohonyn nhw yn parhau."
Mae cabanau maes awyr SurfBox wedi’u cynllunio i gynnwys Argraffydd Laser A4 a gwasanaeth ffôn Skype, a hefyd, o fewn y tair wythnos nesaf, cyflwynir gwasanaeth newydd gwefru ffonau symudol ym Maes Awyr Caerdydd. Golyga hyn y bydd gwasanaeth gwefru batri ar gyfer amrywiaeth o ffonau symudol ar gael yn y cabanau fydd yn galluogi teithwyr i wefru eu ffonau cyn gadael, a hynny heb dâl ychwanegol.
Ychwanegodd Oliver Jaycock, rheolwr busnes masnachol Maes Awyr Caerdydd: "Rydym yn falch o gael cynnig gwasanaeth arall yn y derfynfa i’r teithwyr ei fwynhau yn ystod eu cyfnod yn y maes awyr.
Mewn arolygon teithio nododd rhai cwsmeriaid y bydden nhw’n hoffi gallu cysylltu â’r rhyngrwyd yn y maes awyr, ac wedi gwrando ar eu dymuniad rydym yn ffyddiog y bydd y cabanau newydd yn boblogaidd gyda’n teithwyr cyn iddyn nhw hedfan."
SurfBox yw’r prif gwmni yn Ewrop sy’n darparu gwasanaethau cabanau rhyngrwyd i feysydd awyr, gwestyau, llongau fferi, canolfannau siopa a lleoliadau eraill. Erbyn hyn mae Surfbox yn weithredol mewn 10 maes awyr yn Iwerddon, y DU ac Ynysoedd y Sianel, yn ogystal â mewn dros 300 gwesty ar draws Iwerddon, y DU, Gwlad Belg a Ffrainc.