Cardiff Airport

Newyddion

christmas

Staff Maes Awyr Caerdydd yn hwyluso gwaith Siôn Corn

Cyhoeddwyd: 19 Rhagfyr 2011

Bu gweithwyr Maes Awyr Caerdydd a’i bartneriaid yn rhoi cymorth i Siôn Corn a’i weithwyr bach eleni drwy gasglu 32 o anrhegion ar gyfer plant bregus yn ne Cymru.

Hon yw’r wythfed flwyddyn i’r staff a’r cwmni gymryd rhan yn ymgyrch Nadolig Busnes yn y Gymuned.  Cafodd yr ymgyrch ei rhedeg gan yr elusen am dros ddegawd ac mae’n annog busnesau a’u gweithwyr i roddi anrhegion i oleuo’r Nadolig i blant difreintiedig drwy Gymru gyfan.

Cafodd yr anrhegion a brynwyd gan weithwyr Maes Awyr Caerdydd a’i bartneriaid eu rhoi i’r cynllun “Gwyliau Byr Bro Morgannwg” sydd wedi’i leoli yn Y Barri, nepell o’r maes awyr.

Meddai Marion Williams ar ran Maes Awyr Caerdydd, “Mae’r staff wrth eu bodd yn cymryd rhan yn yr ymgyrch bob blwyddyn ac mae’n hynod galonogol i wybod ein bod wedi rhoi gwên ar wyneb cymaint o blant lleol.”

Mae anrhegion ymgyrch eleni yn cefnogi’r elusen Gweithredu dros Blant, sy’n cefnogi a llefaru ar ran rhai o’r plant a phobl ifanc mwyaf bregus yn y DU, yn ogystal ag elusennau Cymreig eraill i blant.

Ychwanegodd Simon Harris, Cyfarwyddwr Busnes yn y Gymuned yng Nghymru, “Unwaith eto rydym wedi cael ymateb ardderchog gan staff y maes awyr. Mae’r ymgyrch yma yn ffordd syml ac effeithiol i fusnesau gefnogi cymunedau lleol gan wneud gwahaniaeth i’r plant sydd fwyaf angen cymorth y Nadolig hwn. Rydw i’n ffyddiog y bydd yr anrhegion yma yn hwb sylweddol i oleuo Dydd Nadolig i’r plant arbennig yma”.

Dywedodd Barbara Street, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Plant Gweithredu dros Blant: “I’r mwyafrif ohonom mae’r Nadolig yn gyfnod arbennig, ond yn anffodus mae llawer o blant fydd yn derbyn ychydig iawn o anrhegion eleni, os yn derbyn rhai o gwbl. 

“Gall ond un anrheg wneud gwahaniaeth enfawr i’r teuluoedd sydd fwyaf angen cefnogaeth a gall fod o help i ddod ag ychydig o hud a lledrith i Nadolig plentyn.”

“Rydym yn hynod ddiolchgar i Busnes yn y Gymuned ac i Faes Awyr Caerdydd am ein cefnogi gyda’r ymgyrch yma, sydd yn enghraifft ddisglair o’r modd y gall busnesau ddod at ei gilydd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r rhai sydd mewn angen.”

Bu tua 50 cwmni ar hyd a lled Cymru yn rhan o’r ymgyrch eleni gan roddi ar y cyd fwy na 2,500 o anrhegion i blant difreintiedig.

Am wybodaeth bellach ewch i www.bitc.org.uk/wales neu ffoniwch 029 2078 0050.

News menu