Madeira o Gaerdydd gyda Atlantic Holidays
Cyhoeddwyd: 13 Hydref 2011
Yn dilyn llwyddiant gwasanaeth 2011, bydd Atlantic Holidays yn gweithredu taith siarter arbennig arall o Faes Awyr Caerdydd i Fadeira yn ystod haf 2012, gan gynnig cyswllt i deithwyr o dde Cymru â’r ynys Bortiwgeaidd o’u maes awyr lleol.
Bydd y daith yn digwydd ar 17 Medi 2012 a hynny ar awyren A320 o eiddo Monarch Airlines.
Mae modd archebu pecynnau yn awr, gyda’r prisiau yn dechrau o £549 y pen am 7 noson Gwely a Brecwast yng ngwesty 3* Dom Pedro Garajau, neu £809 y pen am 7 noson yng ngwesty 5* Pestana Casino Park, sy’n cynnwys uwchraddio am ddim i hanner prydau bwyd ynghyd â stafell well, gan arbed £231 y pen.
Tarddiad folcanig sydd i ynys Madeira gan gynnig hinsawdd cynnes ac adnoddau amaethyddol cyfoethog. Mae gan yr ynys rywbeth at ddant pawb, o’r parciau a’r gerddi rhyfeddol i’r môr clir fel grisial a chlogwyni serth, ac o’r pentrefi gwledig mewn dyffrynnoedd tawel i’r mynyddoedd serth gyda’u golygfeydd syfrdanol.
Meddai Dino Toouli, Rheolwr Gwerthu a Marchnata Atlantic Holidays “Rydym yn hynod falch o gael cynnwys Maes Awyr Caerdydd yn ein rhaglen hedfan rhanbarthol newydd ar gyfer 2012. Mae cysylltiadau agos rhwng pobl de Cymru ac ynys Madeira sy’n egluro pam fod pob sedd wedi’i gwerthu ar y daith yn 2011. Rydym yn cynghori cwsmeriaid sy’n dymuno ymweld â’r ynys yn 2012 i archebu’n gynnar i osgoi cael eu siomi”
Ychwanegodd Spencer Birns, Pennaeth Datblygu Gwasanaethau Hedfan a Gweithrediadau Masnachol Maes Awyr Caerdydd: “Rydym yn falch o weld Atlantic Holidays yn dychwelyd i Faes Awyr Caerdydd ac i dde Cymru yn 2012 gyda thaith arbennig arall i ynys hyfryd Madeira.
Rydym yn gobeithio y bydd y gwasanaeth yn llwyddiant er mwyn annog y trefnwyr i ymestyn eu rhwydwaith o Brifddinas Cymru, ac i gynnig mwy o deithiau i Fadeira yn y dyfodol.”
I archebu, ffoniwch Atlantic Holidays ar 01452 381 888 neu ewch i‘n gwefan www.atlanticholidays.net/cwl