Cardiff Airport

Newyddion

Mwy o deithwyr rhwng Caerdydd ac Ynys Môn yn Awst

Cyhoeddwyd: 19 Medi 2011

Mae’r cynnydd sylweddol yn nifer y teithwyr sy’n defnyddio gwasanaeth Manx2.com rhwng Caerdydd ac Ynys Môn yn parhau, gyda 20% o gynnydd ym mis Awst o gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

Mae hyn yn dilyn cynnydd o bron 30% yn y tri mis blaenorol, rhwng Mai a Gorffennaf.

Bu Manx2.com a’i bartner cludo FLM Aviation yn gweithredu dwy daith y dydd ers Mai 2010. Yn ychwanegol i’r cynnydd yn y nifer a ddefnyddiodd y gwasanaeth, ni chafwyd yr un enghraifft o oedi yn ystod y mis ac roedd pob taith naill ai ar amser neu yn gynnar.

Meddai Rheolwr Cyffredinol Manx2.com, David Buck: ‘Bu’r cyfuniad o brisiau newydd isel teithiau hamdden ynghyd â’n henw da am fod yn hynod ddibynadwy ac ar amser yn gymorth i gynyddu nifer y teithwyr mewn marchnad anodd. Dros yr haf fe wnaethom hyrwyddo’r gwasanaeth yn eang, gydag arddangosfeydd yn Sioe Môn, Sioe'r Tair Sir yng Nghaerloyw a’r Sioe Frenhinol Gymreig yn ogystal ag ymgyrch lwyddiannus yn y cyfryngau lleol.

‘Gyda’r gaeaf ar y trothwy, bydd ein gwasanaeth yn taro deuddeg go iawn wrth i ni gynnig gwasanaeth cyfleus dwy ffordd i’r ddau gyfeiriad fydd yn arbed siwrne dair neu bedair awr i bobl fusnes ac ymwelwyr, a hynny’n aml mewn amgylchiadau gaeafol tywyll ac anodd ar y ffyrdd. Gyda’r nifer sy’n archebu ymlaen llaw hefyd ar i fyny, rydym yn gobeithio gweld y cynnydd yma’n parhau yn chwarter ola’r flwyddyn.’

Dywedodd Dewi Williams, Pennaeth Priffyrdd a Rheoli Gwastraff o Gyngor Ynys Môn: ‘Mae’n braf gweld y cynnydd parhaol yn y defnydd o’r gwasanaeth wrth i bobl sylweddoli pa mor gyfleus a dibynadwy ydi’r gwasanaeth. Mae’n amlwg y bydd y gwasanaeth o fantais fawr yn ystod misoedd y gaeaf pan fydd amodau teithio yn fwy heriol.’

I ddilyn Manx2.com ar twitter: http://twitter.com/FlyManx2

Ac ar Facebook: http://www.facebook.com/FlyManx2

News menu