Maes Awyr Caerdydd a Marie Curie ar dân ar gyfer 2012
Cyhoeddwyd: 25 Awst 2011
Mae Maes Awyr Caerdydd wedi ymuno gyda Gofal Canser Marie Curie a Serco i gynhyrchu calendr a fydd yn sicr o wneud 2012 yn flwyddyn eirias.
Daeth naw diffoddwr tân o’r maes awyr at ei gilydd i gael tynnu eu llun gyda’r ffotograffydd Malcolm Bradbury. Rhoddodd Louise McCarthy, Catherine Hillier a Cheryl Webster o Goleg Caerdydd a’r Fro o’u hamser i sicrhau fod y modelau yn edrych ar eu gorau ar gyfer tynnu’r lluniau.
Dyma’r trydydd tro i’r dynion fod yn fodlon i gael tynnu’u llun yn dilyn llwyddiant ysgubol y rhifyn cyntaf a gyhoeddwyd yn 2006, a’r ail yn 2009, a lwyddodd i godi £3,350 i’r elusen o’u dewis.
Bydd yr holl arian a dderbynnir am werthu’r calendr yn cael ei roi i Ofal Canser Marie Curie, elusen sy’n darparu gofal nyrsio o safon uchel i gleifion terfynol wael, yn rhad ac am ddim, o fewn eu cartrefi drwy dde ddwyrain Cymru ac yn Hosbis Marie Curie ym Mhenarth.
Meddai Perry Latham, rheolwr gorsaf Serco ym Maes Awyr Caerdydd, am y profiad: “Roedd yn hwyl garw bod ynghlwm â’r calendr unwaith eto eleni ac rydym i gyd yn fodlon iawn gyda’r canlyniadau. Roedd y calendr yn llwyddiant ysgubol yn 2009, ac rydym yn gobeithio y bydd y llwyddiant yn cael ei ailadrodd y tro yma fel y gallwn helpu Marie Curie i godi’r arian mae ei wir angen arnynt.”
Wrth i’r haf ddirwyn i ben bydd y calendr yn sicr o godi’r tymheredd wrth i ni nesáu at 2012. Bydd ar werth o 26 Awst 2011 am £4.00, gyda’r holl elw yn mynd i Marie Curie.
I archebu’ch copi cysylltwch â Stacey Andrews drwy e-bostio stacey.andrews@cwl.aero neu drwy ffonio 01446 712629.
Mae’r maes awyr am ddiolch yn arbennig i bawb a roddodd o’u hamser, eu hymdrech a’u hadnoddau i sicrhau fod y calendr yn cael ei gynhyrchu’n llwyddiannus, sef Malcolm Bradbury (ffotograffydd); Louise McCarthy, Catherine Hillier, Cheryl Webster (colur a thrin gwallt); Zenith Media (argraffwyr); Serco a staff Maes Awyr Caerdydd oedd yn gysylltiedig.