Cysylltiadau newydd ar gyfer haf 2011 gyda KLM
Cyhoeddwyd: 21 Ebrill 2011
Bydd teithwyr o Gymru nawr yn gallu cyrraedd hyd yn oed mwy o leoliadau byd-eang o’u maes awyr cenedlaethol trwy Amsterdam gan fod KLM Royal Dutch Airlines yn ehangu eu rhwydwaith ymhellach o’u canolfan ym Maes Awyr Schiphol Amsterdam.
Dechreuodd gwasanaeth rheolaidd i Faes Awyr Rhyngwladol Xiamen yn Tsieina ddiwedd Mawrth 2011. Xiamen yw’r seithfed lleoliad sy’n bosib hedfan iddo ar rwydwaith KLM o Amsterdam i Tsieina ac mae’n cryfhau ymhellach safle’r cwmni awyrennau yn y farchnad Asiaidd sy’n prysur ehangu. Mae’r cwmni Iseldiraidd KLM nawr yn gweithredu 43 taith wythnosol i amrywiol leoliadau yn Tsieina gan gynnwys Beijing, Chengdu, Guangzhou, Hangzhou, Shanghai a Hong Kong, yn ogystal â’r gwasanaeth newydd i Xiamen. Yn ychwanegol, mae partner SkyTeam KLM, sef China Southern Airlines, yn cynnig teithiau cysylltiol yn ôl ac ymlaen o Xiamen i nifer helaeth o leoliadau ar hyd a lled Tsieina.
Ar gyfer amserlen haf 2011, mae KLM hefyd wedi cynyddu’r cysylltiadau Ewropeaidd gyda theithiau i ddinas Aalborg yn Nenmarc. Bydd teithiau i Aalborg o Gaerdydd ar gael ddwywaith y dydd drwy Faes Awyr Schiphol Amsterdam a hwn fydd y trydydd lleoliad yn Nenmarc fydd KLM yn hedfan iddo ynghyd â Billund a Copenhagen. Mae cyfnod cysylltu byr o gyn lleied â 55 munud yn Schiphol yn caniatáu i deithwyr o Gaerdydd gyrraedd lleoliadau byd-eang o gyfforddusrwydd a chyfleustra eu maes awyr lleol.
Disgwylir i’r gwasanaeth sydd newydd ei lansio i Miami ddenu cwsmeriaid busnes yn ogystal â rhai hamdden pan fydd teithwyr yn heidio i’r heulwen yn Florida. Mae’r gwasanaeth pedair gwaith yr wythnos ar gael ar y cyd rhwng KLM a’u partneriaid yn y fenter, Delta.
Mae amseroedd y cysylltiadau newydd fel a ganlyn:
|
I
|
Amlder
|
Gadael Caerdydd
|
Cyrraedd Amsterdam
|
Gadael Amsterdam
|
Cyrraedd y lleoliad
|
Cyswllt yn AMS
|
|
Aalborg, Denmarc
|
14 x wythnosol
|
0905
1725
|
1120
1940
|
1215
2035
|
1335
2155
|
55mun
|
|
Xiamen, Tsieina
|
3 x wythnosol
|
0905
|
1120
|
1650
|
1015*
*1 dydd yn hwyrach
|
4awr 30mun
|
|
Miami, UDA
|
4 x wythnosol
|
0905
|
1120
|
1510
|
1910
|
3awr 50mun
|
Bydd cysylltiadau pellach ar gael o Gaerdydd trwy Maes Awyr Schiphol Amsterdam i Hafana, Ciwba, Quito, Ecwador a Punta Cana yn y Weriniaeth Ddominicaidd o fis Hydref 2011 ymlaen, a bydd y gwasanaeth i Buenos Aires yn ailddechrau dros dymor y gaeaf 2011.
Dywedodd Spencer Birns, Pennaeth Gweithrediadau Masnachol a Datblygu Gwasanaethau Hedfan ym Maes Awyr Caerdydd: “Rydym yn croesawu’r cysylltiadau newydd sydd yn ychwanegiad i’r 900 a mwy o lleoliadau sydd ar gael yn barod ar rwydwaith KLM. Dylai pobl o’r ardal sy’n teithio ar berwyl busnes neu hamdden edrych ar y posibilrwydd o hedfan o’u maes awyr lleol trwy Amsterdam cyn archebu eu taith gan y gallai hynny yn aml fod y dewis cyflymaf, mwyaf cyfleus a’r rhataf.
Rydym yn ymwybodol bod llawer o deithwyr yn aml yn gyrru i feysydd awyr Llundain i ddal awyren, ac yn aml, wedi byrddio’r awyren, dydy’r daith i’r lleoliad pell ddim hyd yn oed yn un uniongyrchol, a hynny yn dilyn eu taith hir i lawr yr M4. Mae’r teithiau cysylltiol newydd yn cynnig cyfle i deithwyr o dde Cymru ymweld â rhannau amrywiol o’r byd o’u maes awyr lleol, ac rydym yn obeithiol y bydd rhwydwaith KLM yn parhau i gynnig hyd yn oed mwy o wasanaethau cysylltiol o Gaerdydd trwy Amsterdam.”
Ychwanegodd Henri Hourcade, Rheolwr Cyffredinol AIR FRANCE KLM DU & Iwerddon: “Mae llwybrau rhyngwladol newydd KLM yn newyddion gwych i deithwyr busnes a hamdden sy’n ffafrio cwmni gwasanaeth cludo cyflawn sy’n gyfleus ac yn ddibynadwy. Mae’r lleoliadau newydd a gynigir gan KLM yn cynnig hyd yn oed mwy o gyfleoedd i deithwyr o Gymru i roi cynnig ar ein rhwydwaith eang ac i brofi’r ddarpariaeth wych sydd ar gael ar yr awyrennau, megis ein caban economi premiwm, Economy Comfort
“Rydw i’n ffyddiog y bydd pobl yng Nghymru yn falch o glywed am yr ychwanegiadau yma ac y byddant yn helpu i’w gwneud yn llwyddiant. Mae KLM yn eiddgar i groesawu teithwyr sydd ar eu ffordd i Asia, Ewrop neu’r Unol Daleithiau.”