Cardiff Airport

Newyddion

Maes awyr yn cefnogi sioe deithio leol

Cyhoeddwyd: 13 Ionawr 2011

Mae Maes Awyr Caedydd yn cefnogi y sioe deithio Travel House LIVE, fydd yn cael ei chynnal yn y Stadiwm Liberty, Abertawe, ar 23 Ionawr 2011 o 11am-4pm.

Mae’r sioe, sy’n cael ei threfnu gan asiantaeth deithio annibynnol mwyaf Cymru, the Travel House, yn gobeithio denu teithwyr sy’n chwilio am deithiau hedfan a gwyliau i nifer o leoliadau o’u maes awyr lleol, a bydd cynrychiolwyr o gwmnïau teithio blaenllaw hefyd yn bresennol.
 
Bydd arbenigwyr teithio ar gael i roi cannoedd o syniadau ac ysbrydoliaeth am wyliau i deithwyr profiadol a newydd, a bydd hefyd gyfle i ennill gwobrau, bargeinion gwych a chynigion sioe arbennig yn cael eu cynnig, a bydd hefyd gyfle i flasu gwinoedd o bob cornel o’r byd gyda’r cyflenwyr gwin Nick John.
 
Meddai Louise Eakins o Travel House: “Rydym i gyd yn mwynhau’r teimlad o drefnu ein taith nesaf, ond y mwyaf yr ydych chi’n teithio, yr anoddaf yw hi i feddwl lle i fynd nesa’! Rydym yn gobeithio helpu teithwyr i ddarganfod lleoliadau newydd trwy siarad â’n arbenigwyr teithio wyneb yn wyneb, ac gall y rheiny sy’n gobeithio trefnu eu gwyliau nesaf hefyd fanteisio ar fargeinion a chynigion arbennig.”
 
Meddai Cassie Houghton, rheolwraig marchnata a chysylltiadau cyhoeddus Maes Awyr Caerdydd: “Mae Maes Awyr Caerdydd yn falch o fod yn rhan o’r sioe, ynghyd â nifer o gwmnïau awyrennau a gwyliau eraill sy’n cynnig gwasanaethau o Gaerdydd. Rydym yn gobeithio y bydd y sioe yn ysbrydoli teithwyr o’r ardal i archebu eu gwyliau nesaf o faes awyr cenedlaethol Cymru.”

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r sioe deithio ewch i www.travelhouse.co.uk.

News menu