Vueling yn ymestyn teithiau o Gaerdydd i Alicante
Cyhoeddwyd: 12 Mehefin 2012
Bydd y cwmni awyrennau nawr yn cynnig y gwasanaeth hyd at 27 Hydref 2012
Cyhoeddodd Vueling, cwmni awyrennau'r genhedlaeth newydd yn Sbaen, y bydd yn ymestyn ei wasanaeth i’r gyrchfan boblogaidd yn Sbaen, Alicante. Mae’r gwasanaeth tair gwaith yr wythnos (dyddiau Mawrth, Iau a Sul*) yn dechrau ar 24 Mehefin gan ddefnyddio awyren 150-sedd Airbus A319. Yn wreiddiol bwriadwyd dod â’r gwasanaeth i ben yng nghanol mis Medi, sut bynnag, oherwydd y galw, bydd y gwasanaeth erbyn hyn yn parhau hyd at ddiwedd tymor yr haf ar Hydref 27.
Yn gwmni newydd i Faes Awyr Caerdydd yn 2012, mae Vueling eisoes yn darparu tri gwasanaeth rheolaidd yr wythnos (dyddiau Mawrth, Iau a Sadwrn) rhwng prifddinas Cymru a Maes Awyr Barcelona-El Prat gan ddefnyddio awyren Airbus A320 ac yn cynnig seddi wedi’u neilltuo ac ystod o fanteision ar gyfer teithwyr busnes.
Yn ychwanegol, hefyd o 24 Mehefin, bydd Vueling yn cryfhau ei rwydwaith llwybrau o Faes Awyr Caerdydd ymhellach yn sgìl dechrau’r gwasanaeth i Palma de Mallorca ar ddyddiau Mawrth, Iau a Sul, a fydd yn caniatáu i deithwyr o’r DU i gyrraedd tair prif gyrchfan yn uniongyrchol o dde Cymru.
Meddai Spencer Birns, Pennaeth Gweithrediadau Masnachol a Datblygu Gwasanaethau Hedfan Maes Awyr Caerdydd: “Rydym yn hynod falch o wasanaeth Vueling allan o Gaerdydd, derbyniodd y gwasanaeth i Barcelona groeso gwresog ac rydym yn hyderus y bydd Alicante a Palma yr un mor boblogaidd pan fydd y gwasanaeth yn dechrau fis nesaf. Mae ymestyn y gwasanaeth i Alicante hyd ddiwedd Hydref yn newyddion arbennig o dda, gan y bydd yn cynnig cyfle i deithwyr o Gymru fanteisio ar heulwen hwyr yr haf.”
Mae modd i deithwyr sy’n hedfan o Gaerdydd hefyd ddefnyddio’r doreth o gysylltiadau pellach sydd ar gael drwy wasanaeth llwyddiannus Vueling yng nghanolfan Barcelona, sydd ar hyn o bryd gyda chysylltiadau â thros 40 cyrchfan ym mhob cwr o Ewrop a gogledd Affrica, gan gynnwys ynysoedd Groegaidd Santorini a Chreta, Ynysoedd Balearaidd Mallorca, Menorca ac Ibiza, yn ogystal â Gran Canarïa, Malta, Malaga, San Sebastian, Rhufain a Fenis, gyda gwasanaeth checio i mewn llawn yng Nghaerdydd drwodd i’r gyrchfan derfynol.
Mae’r prisiau ar wasanaethau Vueling o Gaerdydd yn dechrau o tua £32 (39.99€). Mae modd archebu tocynnau yn awr drwy gysylltu ag un o’r canlynol: www.vueling.com, trefnwyr teithiau, gwasanaeth iPhone ac Android Vueling, y porth symudol m.vueling.com a chanolfan alwadau’r DU ar 0906 754 7541.
* O 16 Medi, bydd gwasanaeth Caedydd-Alicante ar gael ar ddyddiau Llun, Mercher a Sadwrn.