Telerau ac Amodau
Gwybodaeth Gyfreithiol - Telerau ac Amodau
Cynnwys:
- Cyflwyniad
- Defnydd
- Meddalwedd
- Diogelwch
- Cyfyngiad ar atebolrwydd Maes Awyr Caerdydd
- Gwefannau Trydydd Parti
- Newidiadau i’r Telerau hyn
- Diogelu Data a Phreifatrwydd
- Cwcis
- Cyffredinol
1. Cyflwyniad
1.1 Mae’r telerau ac amodau hyn (“Y Telerau”) yn rheoli eich defnydd o wefan (“y wefan”) Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd Cyf. (“ Maes Awyr Caerdydd”), ac unrhyw wasanaethau SMS (“Gwasanaeth SMS”) yr ydych yn ei derbyn. Wrth ddefnyddio’r wefan neu dderbyn unrhyw Wasanaeth SMS rydych yn cytuno â’r Telerau os byddwch yn cofrestru fel defnyddiwr neu beidio. Byddwch cystal â darllen y Telerau. Os nad ydych yn cytuno â’r Telerau peidiwch â defnyddio’r wefan.
1.2 Mae gan Faes Awyr Caerdydd bob amser yr hawl i atal neu i derfynu eich defnydd o’r wefan a/neu’r Gwasanaeth SMS.
1.3 Nid yw Maes Awyr Caerdydd yn derbyn cyfrifoldeb dros gynnwys
y wefan na’ch defnydd ohoni os yw hynny yn anghyfreithlon yn y
lleoliad yr ydych yn ei defnyddio. Os oes gennych unrhyw amheuaeth,
peidiwch â defnyddio’r wefan.
2. Defnydd
2.1 Eiddo Maes Awyr Caerdydd, neu ei drwyddedwyr, yw holl gynnwys y wefan, oni nodir fel arall.
2.2 Ar wahân i’r hyn a nodir ym mharagraff 2.3, ni chaniateir copïo, ailgynhyrchu, dosbarthu, ailgyhoeddi, lawrlwytho, arddangos, postio na throsglwyddo cynnwys y wefan mewn unrhyw fodd neu trwy unrhyw ddull heb yn gyntaf dderbyn caniatâd ysgrifenedig gan Faes Awyr Caerdydd.
2.3 Rhoddir caniatâd i chi argraffu neu lawrlwytho i ddisg, ar eich menter eich hun, gynnwys tudalen unigol o’r wefan ar gyfer eich ymwneud cyfreithlon gyda Maes Awyr Caerdydd. Rhoddir caniatâd i chi gadw copi electronig dros dro o gynnwys y wefan er mwyn edrych arno pan ydych wedi cysylltu â’r rhyngrwyd.
2.4 Ni chewch wneud unrhyw un o’r canlynol heb gael caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Faes Awyr Caerdydd:
2.4.1 dileu unrhyw arwydd hawlfraint neu farciau masnach oddi ar gopïau o’r cynnwys y cyfeiria’r Telerau hyn atynt.
2.4.2 creu cronfa ddata ar ffurf electronig neu ffurf ysgrifenedig wedi’i strwythuro trwy lawrlwytho unrhyw gynnwys a’i gadw.
2.4.3 naill ai greu cysylltiadau hypertestun â’r wefan, neu fframio unrhyw ran o’i chynnwys.
2.4.4 addasu unrhyw gynnwys sy’n cael ei lawrlwytho oddi ar y wefan.
2.5 Nid yw defnyddio’r wefan yn eich caniatau i ddefnyddio logo, enw, marc gwasanaeth na marc masnachol Maes Awyr Caerdydd, nac unrhyw gyflenwr na chyfranwr arall i’r wefan hon, heblaw yn sgil edrych ar, neu lawrlwytho rhan o’r cynnwys.
2.6 Os gofynnir i chi gofrestru ar unrhyw dudalen o’r wefan, mae'n rhaid i’r wybodaeth y rhoddwch i Faes Awyr Caerdydd fod yn gywir ac yn gyflawn, a’ch cyfrifoldeb chi yw hysbysu Maes Awyr Caerdydd am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth honno (yn arbennig eich cyfeiriad e-bost) trwy e-bostio webmaster@cwl.aero
2.7 Chi sy’n gyfrifol am yr holl ddefnydd o’r wefan a’r gwasanaeth SMS sy’n cael ei wneud gennych chi neu unrhyw un arall o dan eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair chi (“Manylion Personol”), ac hefyd am rwystro unrhyw un rhag ddefnyddio eich manylion personol heb ganiatâd. Os credwch bod unrhyw un wedi torri’r amodau diogelwch trwy, er enghraifft, ddatgelu, dwyn neu defnyddio eich manylion personol heb ganiatâd, cysylltwch â Maes Awyr Caerdydd ar unwaith trwy e-bostio webmaster@cwl.aero
2.8 Wrth gofrestru (neu wrth newid eich manylion cofrestru), os ydych yn rhoi cyfeiriad e-bost sy’n golygu y bydd negeseuon e-bost gan Faes Awyr Caerdydd yn cael eu hanfon i chi trwy gyfrifiadur sy’n rhan o rwydwaith a reolir gan neu ar ran eich cyflogwr neu sefydliad addysgol (neu debyg), rydych yn gwarantu bod gennych hawl i gael e-byst i’r cyfeiriad hwnnw. Rydych hefyd yn cytuno y gall Maes Awyr Caerdydd atal anfon e-byst i’r cyfeiriad hwnnw, heb eich hysbysu, ar gais eich cyflogwr neu’r sefydliad addysgol (neu debyg), hyd yn oed os ydych wedi tanysgrifio i’w derbyn neu i dderbyn unrhyw wasanaeth arall.
2.9 Fe all Maes Awyr Caerdydd gynnig i chi danysgrifio i
wasanaethau eraill. Bydd y defnydd a wnewch o’r cynnwys a
dderbyniwch gan bob gwasanaeth dan reolaeth y Telerau yma. Fe
fyddwn yn eich hysbysu o unrhyw delerau ac amodau ychwanegol.
2.10 Cewch ddefnyddio’r wefan a’r Gwasanaeth SMS i brynu cynnyrch
neu wasanaeth gan drydydd parti. Os hynny, mae’n bosibl mai gyda’r
trydydd parti y bydd eich cytundeb am y cynnyrch neu wasaneth, a
hynny yn hytrach na, neu yn ychwanegol i gytundeb gyda Maes Awyr
Caerdydd, felly dylid nodi’n fanwl delerau ac amodau y trydydd
parti yn ogystal.
2.10 Cewch ddefnyddio’r wefan a’r Gwasanaeth SMS i brynu
cynnyrch neu wasanaeth gan drydydd parti. Os hynny, mae’n bosibl
mai gyda’r trydydd parti y bydd eich cytundeb am y cynnyrch neu
wasaneth, a hynny yn hytrach na, neu yn ychwanegol i gytundeb gyda
Maes Awyr Caerdydd, felly dylid nodi’n fanwl delerau ac amodau y
trydydd parti yn ogystal.
3. Meddalwedd
3.1 Eiddo Maes Awyr Caerdydd neu ei gyflenwyr yw hawlfraint unrhyw feddalwedd sydd ar gael i lawrlwytho oddi ar y wefan neu Wasanaeth SMS (“Meddalwedd”). Rhaid i chi gytuno â thelerau unrhyw gytundeb trwyddedu sydd ynghlwm â, neu sy’n gynwysedig yn y Meddalwedd. Peidiwch â llwytho na defnyddio unrhyw Feddalwedd os nad ydych yn cytuno â’r cytundeb trwyddedu.
3.2 Efallai y bydd Maes Awyr Caerdydd o bryd i’w gilydd yn
cynnig i chi addasu eich porwr. Os hynny, bydd blwch yn ymddangos
ar eich sgrîn yn gofyn am eich caniatâd i ddechrau’r addasiad. Wrth
glicio’r botwm yn y bocs dialog i ddweud eich bod yn derbyn, rydych
yn rhoi caniatâd i Faes Awyr Caerdydd addasu eich porwr i’ch
galluogi i wylio’r gwasanaeth hwn ar eich sgrîn tra ar yr un pryd
eich galluogi i ddefnyddio rhaglenni eraill.
4. Diogelwch
4.1 Peidiwch ag addasu na halogi’r wefan hon, na pheryglu ei diogelwch.
4.2 Os yw Maes Awyr Caerdydd yn amau bod perygl i ddiogelwch y wefan, mae ganddo’r hawl i wahardd neu gyfyngu ar y defnydd ohoni nes bod y perygl wedi darfod.
Cyfyngiad ar atebolrwydd Maes Awyr Caerdydd
5.1 Gwybodaeth gyffredinol yw cynnwys y wefan hon, ac nid yw wedi ei chreu gyda’r bwriad o ymdrîn â gofynion penodol. Mae Maes Awyr Caerdydd yn ymdrechu i gynnwys gwybodaeth gywir, lawn a chyfredol ar y wefan, ond nid yw Maes Awyr Caerdydd yn gwarantu nac yn sicrhau fod y wefan yn gywir, yn gyflawn, ac yn gyfredol. Nid yw Maes Awyr Caerdydd na chwmnïau cysylltiedig yn debyn cyfrifoldeb am unrhyw ddatganiad a wneir ar y wefan, nac yn rhoi unrhyw ddibyniaeth arno.
5.2 Hyd y caniateir o fewn y gyfraith, mae Maes Awyr Caerdydd yn ymwrthod â phob gwarant ac amod (a fynegir neu a awgrymir) sy’n gysylltiedig â chynnwys y wefan, argaeledd y wefan neu unrhyw warant arall. Er bod Maes Awyr Caerdydd yn defnyddio meddalwedd gwrthfeirws i warchod y wefan a’i chynnwys, nid ydyw yn sicrhau nad oes firws ar y wefan [nac yn unrhyw ddeunydd sy’n cael ei lwytho i lawr]. Fe’ch cynghorir i ddarparu trefn ddiogelwch eich hunan.
5.3 Ar wahân i farwolaeth neu anaf personol a achosir o ganlyniad i’w esgeulustod, nid yw Maes Awyr Caerdydd yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled neu iawndal sy’n deillio o ddefnyddio’r wefan, gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i, iawndal uniongyrchol, anuniongyrchol, gwirioneddol, damweiniol, cosbol, arbenigol neu ddilynol, unrhyw golli incwm, refeniw neu elw, unrhyw ddata a gollir neu a ddifrodir, nac unrhyw golled economaidd neu fasnachol sy’n deillio o’ch defnydd, neu eich anallu i ddefnyddio’r wefan, hyd yn oed pe byddai Maes Awyr Caerdydd wedi’i rybuddio bod iawndal o’r fath yn bosibl, neu ei fod wedi rhagweld bod iawndal o’r fath yn bosibl. Wrth ddefnyddio’r wefan hon rydych yn cytuno bod y cyfyngiadau hyn yn berthnasol i holl gynnwys, cynnyrch neu wasanaethau sydd ar gael trwy’r wefan hon (oni bai bod telerau penodol yn berthnasol i’r cynnyrch neu’r gwasanaethau hyn). Mewn achos pan na fydd y gyfraith berthnasol yn caniatau cyfyngu ar, neu eithrio o, gyfrifoldeb neu iawndal, yr ydych yn cytuno na fydd llwyr gyfrifoldeb Maes Awyr Caerdydd am iawndal, colledion ac achosion gweithredoedd o unrhyw fath yn fwy na’r swm y talwyd gennych chi, os o gwbl, i Faes Awyr Caerdydd i brynu cynnyrch neu wasanaeth ar y wefan hon (oni bai bod telerau penodol yn berthnasol i’r cynnyrch neu’r gwasanaethau hyn).
5.4 Mae gwefan Maes Awyr Caerdydd a’i chynnwys yn cael eu darparu “fel y maent”. Ar wahân i’r hyn a nodir yn eglur yn y Telerau, neu’r telerau penodol a berthyn i wasanaeth neu gynnyrch sydd ar gael o’r wefan hon gan Faes Awyr Caerdydd, mae Maes Awyr Caerdydd yn ymwrthod ag unrhyw warant, delerau ac amodau a gynhwysir mewn deddf neu gyfraith, hyd yr eithaf a ganiateir o fewn y gyfraith, gan gynnwys, ond heb eu cyfyngu i, unrhyw warant neu amod ansawdd neu addasrwydd at ddiben penodol.
6. Gwefannau Trydydd Parti
6.1 Mae’r wefan yn cynnwys dolenni cyswllt â gwefannau eraill neu safleoedd WAP sy’n eiddo i neu’n cael eu gwasanaethu gan gwmnïau gwahanol i Faes Awyr Caerdydd (“Gwefannau Trydydd Parti”). Er hwylustod yn unig y mae Maes Awyr Caerdydd yn cynnwys y dolenni hyn. Os ydych yn defnyddio’r dolenni hyn mae’n bosibl y byddwch yn gadael y wefan neu fe all gynnwys Gwefan y Trydydd Parti ymddangos yn ffrâm y wefan hon. Nid yw Maes Awyr Caerdydd wedi adolygu pob un o’r Gwefannau Trydydd Parti hyn neu gynnwys y fframiau, ac nid yw’n rheoli nac yn gyfrifol am weithrediad na chynnwys, polisïau preifatrwydd na diogelwch y Gwefannau Trydydd Parti. Mae Maes Awyr Caerdydd yn eich cynghori i edrych ar ddatganiad polisi preifatrwydd bob Gwefan Trydydd Parti yn unigol cyn defnyddio’r wefan neu nodi unrhyw wybodaeth bersonol.
6.2 Nid yw Maes Awyr Caerdydd yn cymeradwyo nac yn cyflwyno sylwadau ynghylch cynnwys, cynnyrch na gwasanaethau sydd ar gael ar Gwefannau Trydydd Parti. Os ydych yn mynd i Gwefannau Trydydd Parti rydych yn gwneud hynny ar eich menter eich hun ac nid yw Maes Awyr Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw golledion neu ddifrod o ganlyniad i fynd ar a defnyddio gwefannau o’r fath.
6.3 Mae’r Telerau hyn berthnasol i’ch defnydd o’r wefan hon yn unig. Os ydych yn defnyddio un o’r dolenni ar y wefan i fynd i Gwefan Trydydd Parti (megis gwefan un o’n partneriaid busnes), mae eich defnydd o wefannau o’r fath ac unrhyw bryniannau neu archebion sy’n cael eu gwneud arnynt yn ddibynol ar delerau ac amodau ar wahân rhyngoch chi a’r trydydd parti. Nid yw Maes Awyr Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw golledion neu ddifrod o ganlyniad i gytundebau sy’n codi wrth ddefnyddio gwefannau o’r fath.
6.4 Gallwch brynu sawl cynnyrch neu wasanaeth gan drydydd parti trwy ddefnyddio’r wefan hon. Tynnir eich sylw at y telerau ac amodau ychwanegol sy’n berthnasol i’r broses o werthu’r cynhyrchion a’r gwasanaethau hynny cyn i chi gwblhau eich archeb am gynhyrchion a gwasanaethau.
7. Newid i’r Telerau hyn
Mae Maes Awyr Caerdydd yn cadw’r hawl i newid unrhyw ran o’r
wefan a’r Telerau hyn. Bydd Maes Awyr Caerdydd yn cyhoeddi’r
newidiadau hyn i chi ar y wefan. Os nad ydych yn cytuno â’r
newidiadau hyn peidiwch â defnyddio’r wefan. Wrth barhau i
ddefnyddio'r wefan ar ôl i'r newidiadau gael eu cyhoeddi byddwch yn
cytuno gyda’r newidiadau.
8. Diogelu Data a Phreifatrwydd
8.1 Os dewiswch gynnig data wrth ymweld â’r wefan, bydd Maes Awyr Caerdydd yn cadw’r wybodaeth yma. Fe all Maes Awyr Caerdydd ddefnyddio’r wybodaeth yma i gynnig manylion am gynnyrch neu wasanaethau a all fod o ddiddordeb i chi. Fe all Maes Awyr Caerdydd roi’r data yma i aelodau o’r grwp o gwmnïau TBI (hynny yw Maes Awyr Caerdydd, unrhyw is-gwmni neu gwmni cysylltiedig, ac unrhyw gwmni arall mae Maes Awyr Caerdydd a diddordeb ynddo) fel y gallant hwy gynnig gwybodaeth am gynnyrch neu wasanaethau a all fod o ddiddordeb i chi. Cysylltwch â ni trwy e-bostio webmaster@cwl.aero os nad ydych yn dymuno derbyn gwybodaeth o’r fath. Ni fydd Maes Awyr Caerdydd yn cyflwyno eich data i drydydd parti arall.
8.2 Bydd unrhyw ddata byddwch yn gyflwyno i Faes Awyr Caerdydd
yn cael ei gadw a’i drin yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data.
9. Cwcis
9.1 Fe all Maes Awyr Caerdydd ddefnyddio ‘cwcis’ ar y wefan hon. Ffeiliau testun sy’n cael eu cadw ar borwr eich cyfrifiadur ydy cwcis. Maent yn rhoi gwybodaeth am eich defnydd o’r wefan neu yn gosod eich nod personol chi wrth ddefnyddio’r wefan.
9.2 Mae’r porwr ar y rhan fwyaf o gyfrifiaduron wedi eu gosod i dderbyn cwcis, ond gallwch osod eich porwr i wrthod cwcis os mai dyna’ch dymuniad. Bydd modd defnyddio rhan fwyaf o’r wefan heb ddefnyddio cwcis.
9.3 Nid yw cwcis Maes Awyr Caerdydd yn cadw unrhyw fanylion personol amdanoch (er enghraifft eich rhif ffôn, rhif cyfrif neu fanylion talu) ac ni all neb gael gafael ar y wybodaeth hon o’u defnyddio. Nid yw ein cwcis chwaith yn casglu na chofnodi unrhyw wybodaeth am eich defnydd o’ch cyfrifiadur neu’r porwr rhyngrwyd mewn unrhyw fodd.
10. Cyffredinol
10.1 Mae’r wefan hon yn ddarostyngedig i gyfraith Lloegr.
10.2 Crewyd y penawdau yn y Telerau hyn er hwylustod yn unig ac nid oes iddynt unrhyw ystyr nag effaith cyfreithiol.
10.3 Os yw Maes Awyr Caerdydd yn ildio i unrhyw un o’r telerau neu’r amodau o’r Telerau sy’n cael eu torri, ni ddylid tybied y bydd y Maes Awyr yn ildio i hyn yn barhaol, nac yn ildio os torrir yr un amod, neu amod arall, wedi hynny. Ni fydd darpariaeth Deddf Cytundebau 1999 (hawliau Trydydd Parti), nac unrhyw ddeddf gyfatebol, yn berthnasol i’r Telerau yma. Os penderfyna unrhyw awdurdod cymwys na ellir gorfodi unrhyw ran o’r Telerau yma, ni fydd y rhan honno yn berthnasol, ond bydd gweddill y Telerau yn briodol.
10.4 Mae Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd Cyf, sy'n masnachu fel Maes Awyr Caerdydd, yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr, o dan y rhif 03491213, ac mae’r swyddfa gofrestredig yn TBI House, Adeilad 72/104, Frank Lester Way, Maes Awyr Luton Llundain, Luton, Bedfordshire LU2 9NQ.
![[LOGO] Maes Awyr Caerdydd](/gfx/logo_cial.gif)
Cymraeg
Saesneg