Polisi Preifatrwydd

Diogelu Data a Phreifatrwydd

Os dewiswch gynnig data wrth ymweld â’r wefan, bydd Maes Awyr Caerdydd yn cadw’r wybodaeth yma. Fe all Maes Awyr Caerdydd ddefnyddio’r wybodaeth yma i gynnig manylion am gynnyrch neu wasanaethau a all fod o ddiddordeb i chi. Fe all Maes Awyr Caerdydd roi’r data yma i aelodau o’r grŵp o gwmnïau Meysydd Awyr Abertis, neu 'Abertis Airports' (hynny yw Maes Awyr Caerdydd, unrhyw is-gwmni neu gwmni cysylltiedig, ac unrhyw gwmni arall mae Maes Awyr Caerdydd yn ymwneud ag ef) fel y gallant hwy gynnig gwybodaeth am gynnyrch neu wasanaethau a all fod o ddiddordeb i chi. Cysylltwch â ni trwy e-bostio webmaster@cwl.aero os nad ydych yn dymuno derbyn gwybodaeth o’r fath. Ni fydd Maes Awyr Caerdydd yn cyflwyno eich data i drydydd parti arall heb ganiatâd gennych.

Bydd unrhyw ddata byddwch yn gyflwyno i Faes Awyr Caerdydd yn cael ei gadw a’i drin yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data.
 

Cwcis

Fe all Maes Awyr Caerdydd ddefnyddio ‘cwcis’ ar y wefan hon. Ffeiliau testun sy’n cael eu cadw ar borwr eich cyfrifiadur ydy cwcis. Maent yn rhoi gwybodaeth am eich defnydd o’r wefan neu yn gosod eich nod personol chi wrth ddefnyddio’r wefan.

Mae’r porwr ar y rhan fwyaf o gyfrifiaduron wedi eu gosod i dderbyn cwcis, ond gallwch osod eich porwr i wrthod cwcis os mai dyna’ch dymuniad. Bydd modd defnyddio rhan fwyaf o’r wefan heb ddefnyddio cwcis.

Nid yw cwcis Maes Awyr Caerdydd yn cadw unrhyw fanylion personol amdanoch (er enghraifft eich rhif ffôn, rhif cyfrif neu fanylion talu) ac ni all neb gael gafael ar y wybodaeth hon o’u defnyddio. Nid yw ein cwcis chwaith yn casglu na chofnodi unrhyw wybodaeth am eich defnydd o’ch cyfrifiadur neu’r rhyngrwyd mewn unrhyw fodd.

*
- - - - - -