
Mae gan Faes Awyr Caerdydd bolisi iaith Gymraeg sy’n amlinellu’r modd y mae’r maes awyr yn gweithio i ymgorffori’r iaith Gymraeg ym mhob dull o gyfathrebu.
Mae’r trefniadau i ddarparu gwasanaeth Cymraeg i deithwyr yn mynd rhagddynt ers cyflwyno’r brand newydd ym Mawrth 2009, pan gyhoeddodd y maes awyr enw newydd dwyieithog a ffocws ar greu ‘ ymdeimlad o leoliad’ a dathlu Cymreictod. Mae’r wefan yn gwbl ddwyieithog ac mae pob arwydd newydd sy’n cael ei godi yn y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg. Mae modd i bawb ar restr bostio y maes awyr dderbyn cylchlythyrau electroneg yn Gymraeg bob mis, a mae cyhoeddiadau clywedol wedi eu recordio i’w clywed yn Gymraeg yn y derfynfa.
Mae’r maes awyr wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth dwyieithog i’w holl gwsmeriaid, gan
gynnwys y rhai na allant siarad yr iaith ond eto sy’n awyddus i weld a chlywed y Gymraeg, ac i roi’r cyfle i deithwyr gyfathrebu â’r maes awyr trwy gyfrwng y Saesneg neu’r Gymraeg.
Mae’r Gymraeg hefyd yn cael ei hymgorffori mewn meysydd eraill megis deunydd ysgrifennu, deunydd hyrwyddo, cyhoeddiadau printiedig, cysylltiad gyda’r cyfryngau, marchnata a rhaglen Gyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol y maes awyr. Mae aelodau o staff yn cael eu hannog i ddatblygu ac ymarfer eu sgiliau yn yr iaith Gymraeg, ac mae’r maes awyr hefyd wedi ymrwymo i gynllun ‘ Croeso Cynnes Cymreig’ Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd wedi’i anelu at y diwydiant ymwelwyr.
Cliciwch ar y ddolen ar waelod y dudalen i lwytho polisi iaith Gymraeg y maes awyr i lawr. Os hoffech wneud unrhyw sylwadau am y ddarpariaeth Gymraeg yn y maes awyr cliciwch yma i anfon neges e-bost.