Ffeithiau allweddol am Faes Awyr Caerdydd
Mae Maes Awyr Caerdydd (CWL) yn croesawu dros filiwn o deithwyr bob blwyddyn, ac mae’r un nifer o gwmnïau awyrennau â sydd o gwmnïau gwyliau yn hedfan oddi yma. Yn 2006, roedd modd hedfan i 56 o gyrchfannau yn uniongyrchol o’r maes awyr, a dros 400 o gyrchfannau un-stop ledled y byd.
Yn 2006 budsoddwyd £7 miliwn i wella ac ehangu’r maes awyr, ar ben yr £20 miliwn o fudsoddiad sydd wedi ei wneud yma yn barod ers 1995. Ers 2003 mae Caerdydd wedi cael ei enwi yn un o’r deg maes awyr gorau ym Mhrydain ddwy waith yng Ngwobrau Teithio’r Terlegraph.
Hyd y llain lanio yw 2,392m o hyd a 46m o led ac ar gyfartaledd mae hyd at 25 awyren yn gallu codi a glanio bob awr. Mae awyrennau yn codi a glanio un ai dros y môr neu dros dir ffermio, sy’n golygu nad yw’r swn yn effeithio ar y gymuned leol.
Mae trafnidiaeth gyhoheddus yn cynnwys bysiau rheolaidd a gwasanaethau trên o orsaf Maes Awyr Caerdydd yn y Rhws. Os am fynd ar y trên, mae bws gwennol ar gael sy’n cario teithwyr o’w w r derfynfa i’r orsaf – taith sy’n cymryd tua pum munud.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn disgrifio’r ardal ble saif y maes awyr fel ardal sy’n arbennigo yn y diwydiant awyrennau, gan fod llawer o gwmnïau uchel eu parch yn y diwydiant wedi eu lleoli o fewn yr un cylch. Mae’r maes awyr ei hun wedi creu dros 1,000 o swyddi, a’i gyfraniad yn bwysig iawn i economi Cymru.
Cwmni Abertis sy’n berchen ar Faes Awyr Caerdydd. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am abertis.