Cardiff Airport

Hanes y Maes Awyr

Mae hanes Maes Awyr Caerdydd yn ei safle presenol yn ymestyn dros 60 mlynedd, o’r 1940au cynnar pan benderfynodd y fyddin ddefnyddio tir ym Mro Morgannwg i sefydlu maes awyr lloeren yn ystod y rhyfel, a man hyfforddi i beilotiaid awyrennau "Spitfire" yr RAF.

Roedd y maes awyr gwreiddiol wedi ei loeli ym Mhengam (Bae Caerdydd) rhwng 1931 a 1954. Yma y sefydlwyd ‘Cambrian Airways’, cwmni awyrennau Cymreig oedd yn bwysig iawn i Faes Awyr Caerdydd am flynyddoedd, yn yr hen safle a’r safle newydd yn y Rhws.

Dechreuwyd ar y gwaith adeiladu yn y safle presenol ym 1941, a dechreuodd y maes awyr wasanaethu yn swyddogol ar 7 Ebrill 1942 o dan reolaeth Uned Hyfforddi Gweithredol Rhif 53.

Gwelwyd y potensial i ddefnyddio’r lllain lanio at bwrpas masnachol yn gynnar yn y 1950au, a dechreuod Aer Lingus wasanaeth i Ddulyn ym 1952. Adeiladwyd terfynfa newydd yn fuan wedyn, a dechreuwyd wasanaethau i Ffrainc, Belfast a Chorc. Gwelwyd gynnydd yn y teithiau siarter, a barodd i nifer y teithwyr oedd yn defnyddio’r maes awyr godi i dros 100,000 ym 1962.

 

Ym 1965, cafodd y maes awyr ei drosglwyddo o afael Y Weinyddiaeth Amddiffyn i Gyngor Sir Morgannwg. Gwelwyd y daith gyntaf dros Fôr yr Iwerydd ym 1971, a budsoddwyd ymhellach er mwyn datblygu’r derfynfa bresenol a’r twr rheoli. Mae’r llain lanio bellach wedi dyblu o ran maint i 7,000 o droedfeddi, sy’n ddigon mawr i alluogi awyrennau llydan godi a glanio yma.
 
Oherwydd newid i drefn llywodraeth leol yn ystod y 1970au, trosglwyddwyd y maes awyr i ofal tri Chyngor Sir, sef De, Canol a Gorllewin Morgannwg – olynwyr yr hen Gyngor Sir Morgannwg. Roedd teithiau siarter i’r Canoldir yn cynyddu yn eu poblogrwydd, a chododd nifer y teithwyr i 250,000 yn y 1980au cynnar. Sefydlwyd cysylltiad newydd hefyd rhwng Caerdydd a Chanada.
 
Ym 1986 cafodd y llain lanio ei hymestyn 750 troedfedd yn ychwanegol, am gost o tua £1 miliwn. Llwyddodd hyn i ddenu to newydd o awyrennau jet i’r maes awyr. Datblygwyd cysylltiadau dros yr Iwerydd, ac dechreuodd taith siarter i Florida, yn ogystal â'r teithiau i Ganada.

Oherwydd yr estyniad, roedd y llain lanio bellach yn gallu cael ei ddefnyddio gan jetiau mawr 747, ac hynny oedd un o'r rhesymau pennaf dros sefydlu Canolfan Cynnal a Chadw British Airways ym Maes Awyr  Caerdydd. Mae’r gwaith gyda’r mwyaf o’i fath yn y byd, ac yn gwneud gwaith cynnal a chadw hollbwysig i’r ffrâm ac i beirianneg llynges British Airways a’r holl gwmnïau eraill cysylltiedig.

 

Cafodd gwasanaethau rheolaidd y maes awyr hwb fawr ar ddechrau’r 1990, pan ddewiswyd Caerdydd yn gartref i brif ganolfan Ewropeaidd y cwmni awyrennau Manx, oedd yn cynnig gwasanaeth dyddiol i ganolfannau busnes pwysig ledled Prydain ac Ewrop. O ganlyniad, mewn blwyddyn, cynyddodd nifer y teithwyr ar deithiau rheolaidd i dros 100,000 am y tro cyntaf.
 
Cynyddodd nifer y teithwyr 22% i 743,219 erbyn diwedd y flwyddyn ariannol 1992/3. Roedd hyn o ganlyniad i fwy o ddewis o wasanaethau siarter a rheolaidd, yn ogystal â chynnydd sylweddol ym maint yr awyrennau, oedd yn eu galluogi i gario mwy o bobl. Dathlodd y maes awyr ei hanner can mlwyddiant ym 1992, a chynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau arbennig i ddathlu hanner can mlynedd o hedfan o Gaerdydd, gan orffen gydag ymweliad Brenhinol gan Ei Mawrhydi y Dywysoges Alexandra, a ddadorchuddiodd lechen i ddathlu'r achlysur.
 
Dechreuwyd mwy o waith adeiladu ar y maes awyr ym 1993, a’r nod oedd i ehangu’r derfynfa er mwyn gwneud lle i fwy o bobl, ac i wella'r adeilad yn gyffredinol er mwyn bod yn fwy effeithiol. Roedd y prosiectau yn cynnwys datblygu’r ardal cyn mynd drwy’r system ddiogelwch, ehangu a moderneiddio’r lolfa ymadael a newid trefn y ffyrdd sy’n arwain at y derfnynfa, gan adeiladu man diogelwch newydd wrth y fynedfa.

 
arrivals

Yn Ebrill 1995, oherwydd newid i gynllun llywodraethau lleol yng Nghymru, cafodd y maes awyr ei wneud yn gwmni preifat, gyda chyfrandaliadau yn cael eu gwerthu i’r cwmni datblygu eiddo o Gymru, TBI Plc.

Yn 2006 budsoddodd y maes awyr £7 miliwn ar ddatblygiadau er mwyn paratoi at dwf mewn nifer y teithwyr. Roedd hyn yn cynnwys cyfleusterau rheolaeth traffig awyr newydd; chwe arhosfan awyrennau ychwanegol ar gyfer awyrennau Boeing 737; rhodfa newydd ar y llawr cyntaf; gatiau ymadawiadau newydd; lolfa mewn gât; ymestyn y pier ymadawiadau rhyngwladol; mannau cyhoeddus yn y derfynfa gyrraedd; neuadd fewnfudo newydd ar gyfer teithwyr sy’n glanio; cynyddu maint y neuadd gasglu bagiau ac ychwanegu pedwerydd belt bagiau; cynyddu maint Lolfa Foethus y maes awyr a chreu 700 lle parcio ychwanegol. 

Cododd nifer y teithwyr bump y cant i 2.1 miliwn yn 2007 – y nifer uchaf erioed, ac mae’r maes awyr erbyn heddiw yn darparu 1,000 o swyddi uniongyrchol i Dde Cymru. Mae’r maes awyr yn parhau’n rhan o rwydwaith TBI, sy’n berchen, yn gweithredu neu’n darparu gwasanaethau i 13 o feysydd awyr mewn pum gwlad.

Mae TBI yn gwmni sy’n eiddo i abertis (90%), cwmni blaenllaw Ewropeaidd mewn rhedeg seilwaith, yn amlwg mewn 17 o wledydd a thri chyfandir, a AENA (10%), gwasanaethwyr meysydd awyr Sbaenaidd. 

Ym Mawrth 2009 cyflwynodd Maes Awyr Caerdydd enw a brand newydd yn dilyn adolygiad frand y maes awyr gyda nifer o’i randdeiliaid allweddol. Penderfynwyd disodli’r enw ‘Cardiff International Airport’ gyda ‘Cardiff Airport’ a ‘Maes Awyr Caerdydd’, a datgelwyd delwedd weledol a logo newydd hefyd.