Y rhaglen ddysgu
Y Rhaglen Ddysgu

Yn ychwanegol i’r gefnogaeth a’r nawdd a gynigir drwy’r Gronfa Gymunedol, bydd Maes Awyr Caerdydd yn datblygu rhaglen addysgu gynhwysfawr ar gyfer sefydliadau addysgiadol lleol.
Bydd y rhaglen isod yn cael ei chynnig o fis Hydref i fis Mai yn unig
Bydd y rhaglen yn cynnwys y canlynol, ond heb ei chyfyngu iddyn nhw;
1. Teithiau/cyflwyniadau ar safle’r maes awyr
- Ysgol Gynradd
- Ysgol Uwchradd
- Coleg
- Prifysgol
2. Cyflwyniadau heb fod ar y safle/darlithoedd
- Ysgol Gynradd
- Ysgol Uwchradd
- Coleg
- Prifysgol
3. Cynlluniau ar gyfer ysgolion/ astudiaethau o achosion penodol
- Ysgol Gynradd
- Ysgol Uwchradd
- Coleg
- Prifysgol
4. Profiad gwaith
Cyfyngir y gweithgaredd uchod i dymor y gaeaf, Hydref i Fai yn unig.
Teithiau a chyflwyniadau yn y maes awyr
Cyfyngir rhain i 30 ymwelydd bob sesiwn. Bydd y sesiynau yn para 1 - 2 awr yn ddibynnol ar oed yr ymwelwyr.
Codir tâl o uchafswm o £100 am bob ymweliad er mwyn clirio’r costau cysylltiedig. Trafodir a chytunir ar unrhyw gostau ychwanegol ymlaen llaw.
Bydd y cyflwyniadau wedi’u paratoi ymlaen llaw ac wedi’u addasu ar gyfer anghenion addysgiadol yr oedran fydd yn bresennol.
Noder os gwelwch yn dda bod pob taith a chyflwyniad yn y maes awyr ar gyfer y flwyddyn ysgol 2010/11 wedi’u llenwi. Derbynnir ceisiadau ar gyfer 2011/12 nawr.
Cyflwyniadau heb fod ar y safle/darlithoedd a chynlluniau/astudiaethau o achosion penodol
Bydd pob cais yn cael ei ystyried yn unigol gan ddibynnu ar nod ac amcan y gweithgaredd ynghyd â’r adnoddau staffio angenrheidiol.
Gwneud cais
I wneud cais am gefnogaeth, rhaid i’r sefydliad addysgiadol anfon cynllun arfaethedig yn ysgrifenedig gan nodi’n fanwl sut y byddent yn dymuno defnyddio cefnogaeth y maes awyr.
Ar gyfer teithiau a chyflwyniadau rhaid i’r sefydliad hefyd ddarparu’r wybodaeth ganlynol;
- Nifer y disgyblion/myfyrwyr ynghlwm â’r cynllun
- Oed a gofynion addysgiadol y disgyblion/myfyrwyr
- Dyddiadau ac amser dymunol ar gyfer y gweithgaredd (o fewn ffiniau’r maes awyr)
Am fanylion cyswllt cliciwch yma.
Profiad gwaith
Cydlynir profiad gwaith ar hyn o bryd gan Gyrfa Cymru. Cyfyngir y profiad gwaith wythnosol i 4 lle yn ystod tymor y gaeaf, rhwng Hydref a Mawrth yn unig ar hyn o bryd.
I wneud cais, byddwch cystal â holi ymgynghorydd gyrfaoedd yr ysgol am fanylion sut i wneud cais trwy Gyrfa Cymru.