Cardiff Airport

Y gronfa gymunedol

wmc

Mae Maes Awyr Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a noddi mentrau cymunedol sy’n ymochri ag amcanion y maes awyr a’r egwyddorion arweiniol. 

Yn ystod 2009/10 mae Maes Awyr Caerdydd wedi ymrwymo i gynlluniau ag iddynt ffocws ym meysydd addysg a sgiliau, celfyddydau a diwylliant a/ neu’r amgylchedd.

Addysg a Sgiliau

Mae Maes Awyr Caerdydd yn cydnabod y pwysigrwydd o sefydlu a chynnal cymuned ddysgedig a medrus gyda gweithlu sy’n barod ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol.

Celfyddydau a Diwylliant

Mae Maes Awyr Caerdydd yn cydnabod bod Cymru yn wlad ddiwylliannol gyfoethog gyda threftadaeth gadarn sy’n cael ei adlewyrchu yn y byd diwylliannol helaeth ac amrywiol. 

Yr Amgylchedd

Yn ogystal ag ymrwymiad Maes Awyr Caerdydd i’r amgylchedd, byddwn hefyd yn cefnogi mentrau sy’n cynnal pob endid naturiol, byw a difywyd, yn yr ardal leol. 

Bydd cynlluniau sy’n bodoli eisoes yn parhau i dderbyn cefnogaeth.

 

Gwneud cais

I wneud cais rhaid i’r corff anfon cynllun gweithgaredd arfaethedig yn ysgrifenedig gan nodi’n fanwl sut y byddent yn dymuno defnyddio cefnogaeth y maes awyr er budd y corff. 

Rhaid i’r corff hefyd ddarparu’r canlynol;

  • Ffurflen gais (ffurflen i’w lawr lwytho isod)

Am fanylion cyswllt cliciwch yma.

 
Dogfennau perthnasol
Math o Ffeil Teitl / Disgrifiad
Microsoft Word Ffurflen gais y gronfa gymunedol 2011 ( 99 KB )