Cardiff Airport

Cefnogaeth elusennol

Cefnogaeth Elusennol

charity support1

Mae Maes Awyr Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi’r sector elusennau yng Nghymru ac o’r herwydd mae’n agored i gefnogi pob elusen sy’n gwneud cais i’r maes awyr, ac sy’n ymochri ag amcanion y maes awyr a’r egwyddorion arweiniol. 

Rhoddir blaenoriaeth i elusennau sy’n bodloni’r meini prawf canlynol;

  • Rhaid i’r Elusen fod wedi’i chofrestru gyda Chomisiwn Elusennau Cymru a Lloegr
  • Rhaid i’r Elusen fod wedi’i lleoli yng Nghymru ac yn cefnogi’r gymuned Gymreig.
  • Ni ddylai’r Elusen dderbyn cyllid gan adrannau’r Llywodraeth
  • Bod gan aelod o staff y maes awyr gysylltiad agos gyda’r elusen 
  • Rhaid i’r elusen fod yn weithredol wrth ddefnyddio cefnogaeth y maes awyr 
  • Rhaid i’r Elusen gytuno i hyrwyddo’r maes awyr pan ddaw cyfleoedd Cysylltiadau Cyhoeddus ar y cyd

Bydd gan elusen a gefnogir gan y maes awyr yr hawl i’r cyfleoedd canlynol ynghyd ag unrhyw rai eraill a gytunir ymlaen llaw gyda’r maes awyr;

  • Blychau casglu a rhoddion arian tramor
  • Staff casglu adeg digwyddiadau allweddol yn ystod y flwyddyn e.e. Cystadleuaeth  Rygbi’r 6 Gwlad, Cwpan Ryder – mewn safleodd cyn mynd trwy’r System Ddiogelwch
  • Cyswllt â theithwyr yn y maes awyr ar gyfer codi arian/ codi ymwybyddiaeth
  • Cyswllt â staff y maes awyr ynghyd â staff partneriaid y maes awyr ar gyfer codi arian/ codi ymwybyddiaeth/gwirfoddoli
  • Cyfle i gynnig rhoddion o gyflog
  • Cyfle i godi arian trwy ailgylchu nwyddau traul Technoleg Gwybodaeth
  • Gwerthu nwyddau yn y maes awyr
  • Posibilrwydd o dderbyn gwobrau ocsiwn/raffl gan y maes awyr neu bartneriaid y maes awyr
  • Cyfathrebu gyda digwyddiadau cenedlaethol/mentrau codi arian

Gellir ystyried cefnogaeth fwy strategol os bydd modd cyrraedd amcanion yr elusen yn ogystal â rhai’r maes awyr.

 

Gwneud cais

I wneud cais rhaid i’r elusen anfon cynllun gweithgaredd arfaethedig yn ysgrifenedig gan nodi’n fanwl sut y byddent yn dymuno defnyddio cefnogaeth y maes awyr er budd yr elusen. 

Cyfrifoldeb yr elusen fydd gweithredu’r gweithgareddau hyn.

Rhaid i’r elusen hefyd ddarparu’r canlynol;

  • Tystiolaeth o’i statws elusennol
  • Ffurflen gais (ffurflen i’w lawr lwytho isod)

Am fanylion cyswllt cliciwch yma.

 
Dogfennau perthnasol
Math o Ffeil Teitl / Disgrifiad
Microsoft Word Ffurfen gais cefnogaeth elusennol 2011 ( 94 KB )