Cardiff Airport

Pwyllgor Touchdown

Prif ddyletswydd y pwyllgor fydd i drafod, cydlynu a gwerthuso y modd mae Maes Awyr Caerdydd yn ‘mynd o gwmpas ei waith’. O ran y strategaeth gymunedol, bydd y pwyllgor yn hwyluso a chytuno ar weithgaredd gymunedol ynghyd â mentrau elusennol a drefnir gan yr elusennau eu hunain. Nid swyddogaeth y pwyllgor fydd creu a chynllunio gweithgareddau.

Penodwyd aelodau’r Pwyllgor ar sail eu gallu, gwybodaeth a phrofiad perthnasol. 

Gellir cysylltu â’r Pwyllgor trwy e-bost: touchdown@cwl.aero neu trwy lythyr at,

Pwyllgor Touchdown
Maes Awyr Caerdydd
Bro Morgannwg
CF62 3BD

Bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei asesu gan Bwyllgor ‘ Touchdown’ a fydd yn dod i benderfyniad ar sail y meini prawf a nodwyd.

Bydd y Pwyllgor yn rhoi gwybod i’r corff os yw’r cais yn llwyddiannus ai pheidio ond ni fydd yn cynnig rhesymau am wrthod cais ac ni fydd yn barod i drafod ei benderfyniadau.

Bydd yr elusennau llwyddiannus yn cysylltu’n uniongyrchol gyda Phwyllgor ‘Touchdown’ ynghylch y gweithgareddau codi arian a drefnir mewn cydweithrediad gyda’r maes awyr.