Prisiau a sut i dalu am barcio
Archebwch le parcio ar safle Maes Awyr Caerdydd ymlaen llaw ar-lein er mwyn manteisio ar brisiau cystadleuol a bargeinion gwych. Dim ond trwy wefan swyddogol Maes Awyr Caerdydd a'n partner swyddogol NCP y gellir manteisio ar fargeinion wrth archebu lle parcio ym meysydd parcio swyddogol y maes awyr.
Archebwch le parcio ymlaen llaw yn y maes awyr i arbed £££ i gymharu â phrisiau gât trwy glicio yma.
Mae parcio ar safle'r maes awyr yn cynnig gwasanaeth gwell i gwsmeriaid. Mae'r meysydd parcio arhosiad hir a byr i gyd o fewn ychydig funudau ar droed i'r derfynfa, a rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth bws gwennol am ddim o'r meysydd parcio arhosiad hir.
Rydym yn eich hannog i archebu eich lle parcio ymlaen llaw mewn da bryd er mwyn osgoi cael siom.
Prisiau gât maes parcio Arhosiad byr
|
Amser
|
Pris
|
|
Hyd at 20 munud
|
£1.00
|
|
20 i 40 munud
|
£2.00
|
|
40 i 60 munud
|
£3.00
|
|
Hyd at 2 awr
|
£6.20
|
|
Hyd at 3 awr
|
£9.20
|
|
Hyd at 4 awr
|
£11.30
|
|
Hyd at 24 awr
|
£25.00
|
|
24 awr ddilynol neu unrhyw gyfran
|
£25.00
|
Prisiau maes parcio Arhosiad hir
I gael y prisiau gorau i barcio yn ein meysydd parcio arhosiad hir archebwch ymlaen llaw ar-lein er mwyn arbed £££ ar barcio.
Archebwch nawr trwy glicio yma.
Rydym yn annog ein cwsmeriaid i archebu ymlaen llaw mewn da bryd er mwyn osgoi cael siom.
Ffyrdd i dalu
Mae gwahanol ffyrdd i dalu am barcio:
1: cymryd y tocyn wrth gyrraedd y maes awyr a thalu yn y peiriannau un ai yn y derfynfa gyrraedd neu yn y meysydd parcio pan ydych yn barod i adael y maes parcio
2: cymryd y tocyn wrth gyrraedd y maes parcio a thalu wrth y ddesg Gwasanaethau Cwsmeriaid NCP yn y derfynfa gyrraedd pan ydych yn barod i adael y maes parcio
3: cymryd y tocyn wrth gyrraedd a thalu wrth y polyn wrth adael y maes parcio gyda cherdyn credyd neu ddebyd
4: rhoi cerdyn credyd/debyd yn y peiriant wrth fynd i mewn i'r maes parcio. Bydd eich cerdyn yn cyfateb i docyn, ac wrth adael y maes parcio dylech roi'r un cerdyn yn y periant wrth y polyn, a bydd yr arian yn cael ei gymryd o'ch cyfrif