Cardiff Airport

Meysydd parcio arhosiad hir

Arhosiad hir 1 a 2

Addas ar gyfer teithiau am 4 diwrnod neu fwy.

Gall teithwyr nad ydynt yn archebu ymlaen llaw ddewis parcio un ai yn Arhosiad Hir 1 neu 2. Cliciwch yma i weld cynllun o'r meysydd parcio.

 

Arhosiad hir 1

longstay1

Mae Arhosiad hir 1 o fewn ychydig funudau ar droed i'r derfynfa, neu mae bws gwennol AM DDIM yn rhedeg bob chwarter awr i gludo teithwyr i'r derfynfa. Mae cerbyd cymorth arbennig hefyd ar gael ar gyfer teithwyr â symudedd cyfyngedig.

 

Arhosiad hir 2

longstay2

Ceir bws gwennol AM DDIM o Arhosiad Hir 2 i flaen y derfynfa.

Mae gan Arhosiad Hir 2 hefyd y cyfleusterau canlynol ar gyfer teithwyr â symudedd cyfyngedig:

  • Man Galw Cymorth Arbennig (wedi ei gysylltu â’r ddesg wasanaeth ar lawr gwaelod y derfynfa)

  • Lloches i deithwyr aros am Gymorth Arbennig

  • Cerbyd i’ch casglu (ar gael o’r lloches yn y maes parcio i gario teithwyr i/o y derfynfa)

 

Ffyrdd i dalu

Mae gwahanol ffyrdd i dalu am barcio:

1: cymryd y tocyn wrth gyrraedd y maes awyr a thalu yn y peiriannau un ai yn y derfynfa gyrraedd neu yn y meysydd parcio pan ydych yn barod i adael y maes parcio

2: cymryd y tocyn wrth gyrraedd y maes parcio a thalu wrth y ddesg Gwasanaethau Cwsmeriaid NCP yn y derfynfa gyrraedd pan ydych yn barod i adael y maes parcio

3: cymryd y tocyn wrth gyrraedd a thalu wrth y polyn wrth adael y maes parcio gyda cherdyn credyd neu ddebyd

4: rhoi cerdyn credyd/debyd yn y peiriant wrth fynd i mewn i'r maes parcio. Bydd eich cerdyn yn cyfateb i docyn, ac wrth adael y maes parcio dylech roi'r un cerdyn yn y periant wrth y polyn, a bydd yr arian yn cael ei gymryd o'ch cyfrif

 

Archebu ar-lein!

Archebwch eich lle parcio ym meysydd awyr swyddogol y maes awyr ar lein er mwyn arbed £££! Cliciwch yma i archebu.