Cardiff Airport

Maes parcio arhosiad byr

shortstay

Mae’r maes parcio hwn wedi’i leoli wrth y derfynfa ac yn ddelfrydol ar gyfer teithiau byr hyd at 4 diwrnod.

Mae’r cyfleusterau canlynol ar gael yn y Maes Parcio Arhosiad Byr:

Man casglu arbennig

Gall gyrrwyr dalu £1 am 20 munud i gasglu teithwyr yn y maes parcio arhosiad byr, wrth ymyl y derfynfa. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ynglŷn â chasglu teithwyr.

Cymorth Arbennig/Anabl

  • Man Galw Cymorth Arbennig (wedi ei gysylltu â’r ddesg wasanaeth ar lawr gwaelod y derfynfa)
  • Lloches i deithwyr aros am Gymorth Arbennig
  • Cerbyd i’ch casglu (ar gael o’r lloches yn y maes parcio i gario teithwyr i/o y derfynfa)

Llogi Car

Bydd arwyddion yn cyfeirio teithwyr sy’n llogi a dychwelyd ceir i’r Maes Parcio Arhosiad Byr.

Mae’r ardal llogi ceir yn ymyl yr adeilad llogi ceir yn y maes parcio hwn, ac mae enwau’r cwmnïau wedi eu marcio ar y mannau parcio o fewn yr ardal hon.

 

Prisiau

Y prisiau canlynol fydd yn cael eu codi am barcio yn y maes parcio arhosiad byr:

Amser Pris
Hyd at 20 munud £1.00
20 i 40 munud

£2.00

40 i 60 munud £3.00
Hyd at 2 awr £6.20
Hyd at 3 awr £9.20
Hyd at 4 awr £11.30
Hyd at 24 awr £25.00
24 awr ddilynol neu unrhyw  gyfran £25.00
 

Cliciwch yma i weld cynllun o'r meysydd parcio.

 

Ffyrdd i dalu

Mae gwahanol ffyrdd i dalu am barcio:

1: cymryd y tocyn wrth gyrraedd y maes awyr a thalu yn y peiriannau un ai yn y derfynfa gyrraedd neu yn y meysydd parcio pan ydych yn barod i adael y maes parcio

2: cymryd y tocyn wrth gyrraedd y maes parcio a thalu wrth y ddesg Gwasanaethau Cwsmeriaid NCP yn y derfynfa gyrraedd pan ydych yn barod i adael y maes parcio

3: cymryd y tocyn wrth gyrraedd a thalu wrth y polyn wrth adael y maes parcio gyda cherdyn credyd neu ddebyd

4: rhoi cerdyn credyd/debyd yn y peiriant wrth fynd i mewn i'r maes parcio. Bydd eich cerdyn yn cyfateb i docyn, ac wrth adael y maes parcio dylech roi'r un cerdyn yn y periant wrth y polyn, a bydd yr arian yn cael ei gymryd o'ch cyfrif

 

Archebu ar-lein!

Archebwch eich lle parcio ym meysydd awyr swyddogol y maes awyr ar lein er mwyn arbed £££! Cliciwch yma i archebu.