Dylai gyrrwyr sy’n gollwng neu gasglu teithwyr ddilyn yr arwyddion ar gyfer Gollwng/Casglu. Mae’r dewisiadau canlynol ar gael:
Man gollwng arbennig
Gall gyrrwyr dalu £1 am 10 munud i ollwng teithwyr y tu allan i’r derfynfa.
Mae deiliaid bathodyn glas yn cael hyd at 20 munud yn y Man gollwng arbennig.
Caiff taliadau eu gwneud gan ddefnyddio’r blwch arian /peiriant cerdyn wrth adael.
Ni ddylid gadael ceir heb eu goruchwylio ar unrhyw adeg.
Man gollwng AM DDIM
Ceir 20 munud AM DDIM i ollwng, casglu a pharcio yn Arhosiad Hir .
Mae’r maes parcio o fewn ychydig funudau ar droed i'r derfynfa, neu mae bws gwennol AM DDIM yn rhedeg bob chwarter awr i gludo teithwyr i'r derfynfa. Mae cerbyd cymorth arbennig hefyd ar gael ar gyfer teithwyr â symudedd cyfyngedig.
Ar ôl 20 munud bydd prisiau parcio canlynol yn dod i rym:
- hyd at 20 munud = Am ddim
- 20 – 40 munud = £2
- 40 – 60 munud = £3
- hyd at 2 awr = £6.20
- Dros 2 awr, pris diwrnod llawn y maes parcio arhosiad hir
Gellir talu yn y derfynfa gyrraedd neu ar y peiriant talu yn y maes parcio.
Peidiwch â chasglu na gollwng neb ar y ffyrdd cyfagos, gan y gallai hynny achosi problemau traffig, a byddai hefyd yn creu mwy o waith cerdded i'ch teithwyr.
Cliciwch yma i weld cynllun o’r meysydd parcio a’r mannau gollwng a chasglu.
Casglu
Dylai gyrrwyr sy’n gollwng neu gasglu teithwyr ddilyn yr arwyddion ar gyfer Gollwng/Casglu. Mae’r dewisiadau canlynol ar gael:
Man casglu arbennig
Gall gyrrwyr dalu £1 am 20 munud i gasglu teithwyr yn y maes parcio arhosiad byr, wrth ymyl y derfynfa.
Ar ôl 20 munud bydd prisiau parcio arferol yn dod i rym. Gellir talu yn y derfynfa gyrraedd neu ar y peiriant talu yn y maes parcio.
Man gollwng AM DDIM
Ceir 20 munud AM DDIM i ollwng, casglu a pharcio yn Arhosiad Hir.
Mae'r maes parcio o fewn ychydig funudau ar droed i'r derfynfa, neu mae bws gwennol AM DDIM yn rhedeg bob chwarter awr i gludo teithwyr i'r derfynfa. Mae cerbyd cymorth arbennig hefyd ar gael ar gyfer teithwyr â symudedd cyfyngedig.