
Mae Bureau de Change The Change Group wedi ei leoli ar lawr cyntaf y derfynfa ac yn y Lolfa Ymadael at ddefnydd pawb sy’n hedfan dramor o’r maes awyr. Mae’n cynnig gwasanaeth cyfnewid arian cyflym yn ogystal â sieciau teithio.
Gellir talu mewn amrywiaeth o ffyrdd, a gellir archebu arian tramor ar-lein a’i gasglu yn y maes awyr. Gallwch archebu arian ar-lein a’i gasglu yn y maes awyr drwy glicio yma.
Mae The Change Group hefyd yn gwerthu cardiau ffôn rhyngwladol i rai sydd am arbed arian wrth ffonio oddi tramor.
Mae The Change Group hefyd yn cynnig gwasanaeth Bureau de Change yn y neuadd gasglu bagiau ar gyfer teithwyr sy’n cyrraedd.
Am fwy o wybodaeth neu i archebu ymlaen llaw cysylltwch â:
Gwefan: www.changegroup.co.uk
Ffôn: 01446 719523
Fax: 01446 719525