Gwybodaeth am Ddiogelwch
Eich diogelwch chi yw blaenoriaeth Maes Awyr Caerdydd.
Bagiau Llaw
Mae gan deithwyr bellach hawl i gario mwy nag un bag llaw o Faes Awyr Caerdydd.
Serch hynny mae gan gwmnïau awyrennau eu polisïau eu hunain ac felly rydym yn eich cynghori i ofyn i'ch cwmni awyrennau neu eich hasiantaeth deithio am eu rheolau ynglyn â chario bagiau llaw cyn hedfan.
Cysylltwch â’ch cwmni cyn cychwyn i’r maes awyr, ond ni chaiff y bag llaw fod YN FWY na:
- 56 cm o hyd (tua 22 modfedd)
- 45 cm o uchder (tua 17.5 modfedd)
- 25 cm o ddyfnder (tua 9.85 modfedd)
Gall y mesuriadau fod yn llai gan rai cwmniau awyrennau. Cysylltwch â’ch cwmni cyn gadael am y maes awyr i sicrhau nad ydy eich bag llaw yn rhy fawr i gael ei dderbyn ar yr awyren.
Yn ychwanegol, rhoddir caniatâd i bob teithiwr gario un offeryn cerddorol mewn cês ond ni cheir gario unrhyw beth heblaw am yr offeryn ac atodiadau cysylltiedig â’r offeryn yn y cês.
Mae’n rhaid i bob gliniadur ac unrhyw eitem electronig arall gael eu tynnu o’r bag llaw a’u gosod mewn blwch ar wahân i fynd drwy’r System Ddiogelwch.
Caniateir pramiau a chynorthwyon cerdded, ond fe fyddant yn cael eu sganio gan belydr x. Caniateir cadeiriau olwyn, ond fe fyddant yn cael eu harchwilio yn fanwl.
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am eitemau na chaniateir ac eitemau y ceir eu cario mewn bag llaw.
Hylifau

Rydym yn argymell eich bod yn cario unrhyw hylifau (gan gynnwys gel, pâst, hufen croen, cymysgedd hylif/soled, a cynhwysyddion gwasgeddedig) yn eich cês gan fod rheolau llym ynglyn â’u cario drwy’r System Ddiogelwch.
Os yw’n hanfodol i chi gario’r eitemau hyn drwy’r System Ddiogelwch, ni cheir gario mwy na deg cynhwysydd 100ml mewn bag plastig clir y gellir ei ail selio (gwelir y llun), ac mae’n rhaid ei ddangos ar wahân i’ch bag llaw wrth fynd drwy’r System Ddiogelwch.
Yr unig eithriadau yw meddyginiaeth ar gyfer y daith, gyda Llythyr Meddyg ynghlwm ag ef, neu laeth i fabanod, ac mae’n rhaid i'r rhiant/gwarchodwr ei flasu wrth fynd drwy’r System Ddiogelwch.
Mae Maes Awyr Caerdydd yn annog teithwyr sy’n paratoi i deithio i ddarparu ac, yn y pen draw, i ailgylchu eu bagiau eu hunain. Mae bagiau plastig y gellir eu hail-selio ac sy’n cyfarfod â gofynion y Llywodraeth ar gael o nifer o ffynonellau masnachol a dylid eu prynu cyn cyrraedd y maes awyr.
Os bydd teithwyr, ar ôl cyrraedd y maes awyr, angen bagiau tryloyw y gellir eu hail-selio, bydd Maes Awyr Caerdydd yn darparu peiriannau arbennig fydd yn cynnig 4 bag am £1 gan ddechrau ar 2 Tachwedd 2009. Ar ôl y dyddiad yma, ni fydd y bagiau rhad ac am ddim a ddarparwyd pan gyflwynwyd rheolau newydd bagiau llaw yn 2006 ar gael.
Cesus wedi eu Cofrestru
Mae'r bagiau y canieteir eu cario ar awyrennau rheolaidd a siarter yn amrywio. Cysylltwch â'ch asiantaeth deithio neu eich cwmni awyrennau cyn teithio i'r maes awyr.
Dylech rybuddio’r cwmni awyrennau, asiantaeth trin y cesus neu eich asiantaeth deithio ymhell o flaen dyddiad eich taith os oes gennych gês mawr iawn neu gês siâp anarferol. Dylech hefyd ganiatau mwy o amser i gofrestru.
Cliciwch yma am restr o eitemau na chaniateir eu cario ar awyren.
Teithio gyda Babanod a Phlant bach
Mae llaeth a bwyd babanod yn cael eu hystyried yn eitemau hanfodol ac felly gallwch gario’r llaeth mewn poteli sy’n dal mwy na 100ml yn eich bag llaw os oes angen. Serch hynny, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi ei flasu.
Rydym yn annog rhieni i gario’r bwyd mewn jar yn hytrach na charton gan ei bod yn haws eu cau a’u hail-selio. Caniateir clytiau a weipiau ond rhaid rhoi unrhyw hufen, past, eli neu gel mewn cynhwysydd heb fod yn fwy na 100 ml, a’i roi mewn bag plastig clir y gellir ei ail selio nad yw’n dal mwy na litr, yr un fath â’r cyfyngiadau ar hylifau eraill.
Gallwch roi jariau o fwyd a chartonau o laeth yn eich cês. Ceir fynd â phramiau trwy’r System Ddiogelwch, ond fe fydd gofyn i chi afael yn eich baban am ychydig funudau er mwyn i’r pram gael ei roi trwy’r peiriant pelydr-x.
Cyngor Diogelwch
- Peidiwch byth â gadael cesus neu eiddo personol heb eu goruchwylio. Byddant yn cael eu symud ac o bosib, eu difa. Dylid rhybuddio aelod o’r staff os gwelwch unrhyw eiddo sydd heb ei oruchwylio
- Dylech bob amser ddefnyddio eich bag eich hun gan ofalu ei bacio eich hun
- Dylech bob amser ateb pob cwestiwn am eich bagiau wrth gofrestru. Mae’r drefn yma yn holl bwysig ac yno er mwyn eich diogelwch chi
- Gallai unrhyw sylwadau anaddas olygu na fyddwch yn cael mynd ar yr awyren. Mae’n drosedd i ddatgan manylion celwyddog
- Peidiwch byth â chofrestru bagiau pobl eraill
- Peidiwch byth â chario dim byd i’r awyren ar ran rhywun arall
- Dylai eich enw a’ch chyfeiriad cartref fod y tu mewn i’ch cesus, ynghyd â’ch enw a manylion pen eich taith ar y tu allan
- Dylech ddal eich gafael mewn arian, gemwaith, camerâu a phethau gwerthfawr eraill – peidiwch â’u rhoi yn y cesus sy’n cael eu cofrestru
- Dylech gario sieciau teithio a chardiau credyd yn hytrach na
symiau sylweddol o arian parod.
![[LOGO] Maes Awyr Caerdydd](/gfx/logo_cial.gif)
Cymraeg
Saesneg