Cardiff Airport

Toiledau

Mae toiledau cyhoeddus ar lawr cyntaf y brif derfynfa cyn mynd drwy'r system ddiogelwch ac yn y lolfa ymadael. Mae toiledau preifat hefyd ar gael i gwsmeriaid y lolfa foethus.

Mae toiledau ar gyfer teithwyr sy'n glanio yn y maes awyr yn y neuaddau bagiau mewnwladol a rhyngwladol, ac yn y derfynfa gyrraedd.

Mae toiledau anabl ym mhob un o'r cyfleusterau.