Cyfyngiadau ar fagiau llaw
Eitemau mewn Bagiau Llaw
PEIDIWCH â phacio’r eitemau canlynol yn eich bag llaw:
Gynnau, drylliau ac arfau
Unrhyw offer a all, neu’n ymddangos fel pe bai’n gallu saethu taflegryn neu achosi anaf, gan gynnwys:
- pob math o ddrylliau (llawddrylliau, drylliau, reifflau, drylliau pelets ac ati)
- copi o ddrylliau neu ddrylliau ffug
- cydrannau o ddrylliau, (ac eithrio dyfeisiau anelu a chyfeirio telesgopig)
- llawddrylliau aer, reifflau a gynnau pelets
- llawddrylliau tasgu rhybuddion
- llawddrylliau cychwynnol
- gynnau tegan o bob math
- gynnau pelenni traul
- gynnau bollt a hoelion diwydiannol
- bwâu croes
- catapyltiau
- drylliau tryfer a phicell
- lladdwyr trugarog anifeiliaid
- dyfeisiau llonyddu neu syfrdanu e.e. prociau gwartheg, arfau egni dull balistig (taser)
- tanwyr siâp dryll
Arfau pigfain ac eitemau miniog
Eitemau pigfain neu finiog a allai achosi anaf, gan gynnwys:
- bwyelli
- saethau a dartiau
- craffau
- tryferi a phicelli
- bwyelli iâ a cheibiau iâ
- esgidiau sglefrio
- cyllyll y gellir eu cloi neu gyllyll fflicio, beth bynnag fo hyd eu llafnau
- cyllyll, gan gynnwys cyllyll seremonïol, wedi’u gwneud o fetel neu unrhyw ddeunydd digon cryf i’w ddefnyddio fel arf posibl
- cyllyll cig
- twceiod
- raseli a llafnau agored (ac eithrio raseli diogelwch neu dafladwy a chanddynt lafnau mewn cetrisen)
- cleddbigau, cleddyfau a ffon gleddyfau
- ffleimiau
- sisyrnau a chanddynt lafnau mwy na 6cm o hyd
- polion sgïo a cherdded/dringo
- sêr taflu
- offer crefftwyr y mae’n bosibl eu defnyddio fel arf pigfain neu finiog e.e. driliau ac ebillion drilio, torwyr blychau, cyllyll bob pwrpas, pob math o lifiau, sgriwdreifers, trosolion, morthwylion, pileri, tyndroeon/sbaneri, chwythlampau
Offer miniog
Unrhyw offeryn miniog a allai achosi anaf, gan gynnwys:
- batiau pêl fas a phêl feddal
- clybiau neu fatonau - cadarn neu hyblyg e.e. Clybiau Bili, blacjac, ffyn nos a batonau
- batiau criced
- clybiau golff
- ffyn hoci
- ffyn lacrós
- rhwyfau caiac a chanŵ
- byrddau sgrialu
- ciwiau biliard, snwcer a phŵl
- gwialenni pysgota
- offer crefftau ymladd e.e. dyrnau haearn, clybiau, colbrenni, ffustiau reis, num chucks, kubatons, kubasaunts
Sylweddau ffrwydrol a fflamadwy
Unrhyw sylwedd ffrwydrol neu losgadwy sy’n peryglu iechyd teithwyr a chriw neu staff diogelwch yr awyren neu’r adeilad, gan gynnwys:
- ffrwydron
- capiau ffrwydro
- tanwyr a ffiwsiau
- ffrwydryddion a dyfeisiau ffrwydrol
- copi o ddeunydd neu ddyfeisiau ffrwydrol neu rai ffug
- ffrwydron a chyflenwadau milwrol ffrwydrol eraill
- grenadau o bob math
- nwy a chynhwysyddion nwy e.e. biwtan, propan, asetylen, cyfeintiau mawr o ocsigen, tân gwyllt, unrhyw fath o ffagliadau a phyrotechneg arall (gan gynnwys popwyr parti a chapiau tegan)
- matsys anniogel
- tuniau neu getris sy’n cynhyrchu mwg
- tanwydd hylif fflamadwy e.e. petrol/gasolin, disel, hylif taniwr, alcohol, ethanol, paent chwistrellu aerosol
- tyrpant a theneuwr paent
- diodydd alcoholig gyda chyfaint dros 70% (prawf 140%)
Sylweddau cemegol a gwenwynig
Unrhyw sylwedd cemegol neu wenwynig sy’n peryglu iechyd teithwyr a chriw neu staff diogelwch yr awyren neu’r adeilad, gan gynnwys:
- asidau ac alcalïau e.e. batris ‘gwlyb’ y gellir eu harllwys
- sylweddau cyrydol neu gannu e.e. mercwri, clorin
- chwistrellau andwyo neu analluogi e.e. pastwn, chwistrell pupur, nwy dagrau
- deunydd ymbelydrol e.e. isotopau meddygol neu fasnachol
- gwenwynau
- deunydd heintus neu fiolegol beryglus e.e. gwaed heintus, bacteria a firysau
- deunydd a allai danio neu losgi’n annisgwyl
- diffoddwyr tân
Eitemau Bag Llaw a Ganiateir
Mae’r eitemau a ganiateir mewn Bag Llaw fel a ganlyn:
- Persawrau, gwirodydd, gwinoedd a nwyddau tybaco a brynir yn y siopau Di-dreth
- Chwistrell gwallt, nwyddau ymolchi, persawr eillio a diarogleuwyr a brynir yn y siopau Di-dreth
- Meddyginiaethau mewn cynhwysyddion gwasgeddedig (ni chaiff dim eitem fod dros hanner kg neu hanner litr - ni chaniateir i’r cyfanswm fod yn fwy na 2kg neu 2 litr). Dewch â’r presgripsiwn meddygol gyda chi
- Deunyddiau ysmygu - ac eithrio deunydd i ail-lenwi tanwyr sigaréts sy’n cynnwys nwy neu danwydd hylif, neu danwydd tanwyr na chaiff ei amsugno
- Silindrau ocsigen a charbon deuocsid bach at ddefnydd meddygol (sydd wedi’u cymeradwyo gan y cwmni hedfan)
- Hyd at 2kg o iâ sych ar gyfer nwyddau darfodus yn y caban yn unig
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’ch cwmni awyrennau.