
Mae Maes Awyr Caerdydd wedi’i ymrwymo i ddarparu cymorth i deithwyr â symudedd cyfyngedig yn ystod eu cyfnod yn y maes awyr, o'r adeg pan fyddant yn cyrraedd nes byddant yn mynd ar yr awyren, ac o’r adeg pan fyddant yn dod oddi ar yr awyren nes byddant yn gadael y maes awyr.
Mae’r cyfleusterau canlynol ar gael:
- Tri man galw cymorth arbennig yn y meysydd parcio a thu allan i brif fynedfa y derfynfa
Gall teithwyr ddefnyddio’r mannau galw hyn i roi gwybod eu bod wedi cyrraedd.
- Derbynfa cymorth arbennig yn y neuadd gofrestru
Cesglir gwybodaeth berthnasol er mwyn penderfynu faint o gymorth fydd ei angen ar y teithwyr, a bydd yr holl broses yn cael ei hegluro yma.
- Cymorth i deithwyr sy’n hedfan o’r maes awyr
Gall teithwyr sy’n hedfan o’r maes awyr ac y mae angen cymorth arbennig arnynt gael cymorth wrth gofrestru, wrth fynd drwy'r System Ddiogelwch, yn y lolfa ymadael ac wrth fynd ar yr awyren.
- Cymorth i deithwyr sy’n hedfan yn ôl i’r maes awyr
Gall teithwyr sy’n hedfan yn ôl i’r maes awyr ac y mae angen cymorth arbennig arnynt gael cymorth i ddod oddi ar yr awyren, i fynd drwy’r rheolaeth pasbort, y tollau a’r neuadd gasglu bagiau.
- Cymorth i’r maes parcio neu at drafnidiaeth gyhoeddus ar y ffordd wrth ddychwelyd
Gall teithwyr gael cymorth i fynd at y mannau cymorth arbennig yn y meysydd parcio neu at y cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael.