Ystafelloedd cyfarfod
Mae ystafelloedd cyfarfod ar gael os ydych am drefnu cyfarfod yn ystod eich taith. Mae’r cyfleusterau canlynol ar gael:
| Ystafell |
Seddi ar ffurf theatr |
Seddi o amgylch bwrdd |
Cost llogi’r ystafell |
Cyfleusterau ychwanegol |
| Porthceri |
15 |
30 |
Diwrnod llawn £100.00 Hanner diwrnod £60.00 |
- Sgrîn ar gael yn y stafell
- System awyru
- Toiledau preifat
|
| Y Rhws |
12 |
Ddim yn addas |
Diwrnod llawn £100.00 Hanner diwrnod £60.00 |
- Taflunydd (cost ychwanegol i’w logi)
- Gall y stafell gael ei gosod yn
anffurfiol i hyd at 10 o bobl
- Golygfa o’r llain lanio
|
Costau
Bydd costau ychwanegol i’w talu yn ychwanegol i’r gost am logi’r ystafell os am ddefnyddio y cyfleusterau a’r gwasanaethau canlynol:
- 5% ychwanegol i ddefnyddio Yswiriant Iawndal y Maes Awyr
- Bwrdd Gwyn/Siart Troi gydag ysgrifbinnau ac un pad siart troi
- Bydd pad siart troi ychwanegol yn costio £10/pad
- Ystafell Y Rhws – Defnydd o’r sgrîn gyfannol yn costio £10/diwrnod neu ran o’r diwrnod
- Ystafell Y Rhws – Defnydd o’r taflunydd cyfannol yn costio £75/diwrnod neu £40/hanner diwrnod
Nid yw’r costau uchod yn cynnwys TAW, fydd yn cael ei ychwannegu pan fo hynny’n berthnasol.
Mae lifft o lawr gwaelod y derfynfa at y ddwy stafell.
Gellir trefnu bwffe neu luniaeth yn uniongyrchol gan gwmni arlwyo allanol cysylltwch â ni am fwy o fanylion.
Am fanylion ynglyn â llogi’r stafelloedd, ac am y telerau a’r amodau, cysylltwch â’r maes awyr ar 01446 7111111 neu info@cwl.aero. Ychwanegir TAW at y prisiau a nodir.