Cyfleusterau ar gyfer babanod a phlant
Canolfan Chwarae i Blant

Mae canolfan chwarae yn y lolfa ymadael ar gyfer teithwyr ifanc. Smyths Toys yw noddwyr y ganolfan chwarae.
Mae gofyn i rieni oruwchwylio eu plant tra’u bod yn mwynhau’r chwarae.
Cyfleusterau ar gyfer newid babanod
I’r rhai sy’n teithio â babanod, mae stafelloedd arbennig, preifat a chyfforddus ar gael, sy’n cynnwys byrddau newid clytiau. Mae’r stafelloedd hyn ar gael bob amser, ac wedi eu lleoli yn y lolfa ymadael a’r derfynfa gyrraedd.
Cyfleusterau ar gyfer bwydo babanod
Gellir prynu bwyd ar gyfer babanod a chynhesu bwyd babanod yn y Pentref Bwyd cyn mynd drwy’r System Ddiogelwch, ac yn y lolfa ymadael.
Arddangosfa Techniquest

Mae Techniquest a Maes Awyr Caerdydd wedi dod at ei gilydd i lansio arddangosfa wyddonol yn lolfa ymadael y maes awyr er mwyn i deithwyr ei mwynhau cyn hedfan.
Mae saith o eitemau poblogaidd, ymarferol y ganolfan wedi'u gosod a fydd yn rhoi cyfle i deithwyr brofi’r wyddoniaeth, addysg a hwyl a gysylltir ag enw Techniquest.