Cardiff Airport

Gatiau eBasbort

epassport

Mae gatiau eBasbort ar gael yn ardal Rheolaeth Ffiniau ar gyfer teithwyr sy’n glanio yn y maes awyr, fydd yn gallu cael eu defnyddio gan deithwyr dros 18 mlwydd oed sydd â phasbort ‘sglodyn’.

Bydd teithwyr cymwys yn berchen eBasbort sy’n cynnwys sglodyn (dangosir logo’r sglodyn ar glawr eich pasbort). Bydd y teithwyr hyn yn ddinasyddion Prydeinig, dinasyddion yr UE/AEE neu'n ddinasyddion y Swisdir neu Lichtenstein, ac yn 18 oed neu’n hŷn. Nid oes angen cofrestru na ffurflen gais. Bydd staff ar gael i gynnig cymorth a chyngor wrth ddefnyddio’r gatiau, a byddant yn parhau i archwilio â llaw pan fo angen.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Asiantaeth Ffiniau a Mewnfudo y DU.

 
passport

Os ydych dros 18 oed ac os oes logo tebyg i hwn ar glawr eich pasbort byddwch yn gallu defnyddio’r gatiau eBasbort.