Cabanau rhyngrwyd

Mae cabanau rhyngrwyd ar gael yn y derfynfa, sy’n rhoi cyfle i deithwyr bori’r we cyn mynd ar eu hawyren.
Mae'r cabanau ar gael yn y lleoliadau canlynol:
- dau yn y neuadd gofrestru sydd hefyd yn gallu argraffu dogfennau
- un yn y neuadd fwyd cyn mynd drwy’r System Ddiogelwch ar y llawr cyntaf
- pedwar yn y lolfa ymadael
Cynlluniwyd y cabanau i ddarparu mynediad cyflym, dibynadwy i’r rhyngrwyd i’n teithwyr yn ystod eu cyfnod yn y maes awyr, a chodir tâl o 10c y funud ar deithwyr i bori’r we, gyda thâl ychwanegol am argraffu.
Bydd teithwyr yn gallu cofrestru ar-lein ac argraffu eu dogfennau teithio eu hunain yn y maes awyr, ac mae’r cabanau wedi’u cynllunio i gynnwys Argraffydd Laser A4 a gwasanaeth ffôn Skype
Mae gwasanaeth gwefru batri ar gyfer amrywiaeth o ffonau symudol hefyd ar gael yn y cabanau fydd yn galluogi teithwyr i wefru eu ffonau cyn gadael, a hynny heb dâl ychwanegol.
Rhyngrwyd WiFi Spectrum
Mae cyfleuster rhyngrwyd di-wifr trwy derfynfa Maes Awyr Caerdydd.
Mae Spectrum, y prif gwmni sy'n darparu cyfleuster rhyngrwyd di-wifr cyhoeddus i feysydd awyr, yn darparu gwasanaeth talu wrth ddefnyddio yn y maes awyr.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Spectrum Interactive.