
Mae tacsis swyddogol y maes awyr, Checker cars, yn cynnig gwasanaeth 24 awr i gludo teithwyr i’r maes awyr ac oddi yno. Mae eu swyddfa wedi ei lleoli y tu allan i'r derfynfa gyrraedd.
Tua £26 ydy cost tacsi o’r maes awyr i ganol Caerdydd, ac mae prisiau’r tacsis swyddogol yn gyson ddydd a nos.
Mae tacsis ar gael wedi i chi gyrraedd, neu gellir trefnu ymlaen llaw trwy anfon neges e-bost i cardiff@checkercars.com neu drwy ffonio 01446 711747.