
Mae trên yn cysylltu gorsaf Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd Y Rhws â Chaerdydd Canolog a Phen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r trenau’n rhedeg bob awr o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, a phob dwy awr ar y Sul.
Mae bws gwennol yn rhad ac am ddim i deithwyr â chanddynt docyn trên dilys yn cyfarfod pob trên i gludo teithwyr o’r orsaf i derfynfa gyfagos y maes awyr. Mae'r bws yn gadael ddeng munud i'r awr.
Mae adnoddau ar gael ar gyfer teithwyr sydd angen cymorth arbennig.
Am fwy o wybodaeth ffoniwch 0845 748 49 50 neu ewch i www.arrivatrainswales.co.uk.
Mae First Great Western yn gwasanaethu trenau rhwng gorsaf Caerdydd Canolog a Phen-y-bont ar Ogwr i'r dwyrain a'r gorllewin. Am fwy o wybodaeth ewch i www.firstgreatwestern.co.uk.