Cardiff Airport

Mewn car

by road mp

Mae Maes Awyr Caerdydd wedi ei leoli yn Y Rhws ym Mro Morgannwg, 12 milltir i'r gorllewin o Gaerdydd, a 10 milltir o Gyffordd 33 ar yr M4.

Gadewch yr M4 ar Gyffordd 33 a dilynwch arwyddion Maes Awyr Caerdydd ar hyd yr A4232, A4050 a'r A4226. Ein côd post yw CF62 3BD.

  • Mynediad i'r man casglu/gollwng a meysydd parcio arhosiad byr  a hir 1 ar hyd y ffordd Ddwyreiniol, Port Road
  • Mynediad i'r maes parcio arhosiad hir 2 ar hyd y ffordd Orllewinol, cylchfan A4226 a B4265.
 

Dylai gyrwyr sy’n gollwng neu gasglu teithwyr ddilyn yr arwyddion ar gyfer Gollwng/Casglu. Mae’r dewisiadau canlynol ar gael ar gyfer gollwng neu gasglu teithwyr:

 

Mannau gollwng a chasglu arbennig

priority dropoff

Man gollwng arbennig

Talu £1 am 10 munud i ollwng teithwyr y tu allan i’r derfynfa.

Mae deiliaid bathodyn glas yn cael hyd at 20 munud yn y Man gollwng arbennig.

Caiff taliadau eu gwneud gan ddefnyddio’r blwch arian /peiriant cerdyn wrth
adael.

Ni ddylid gadael ceir heb eu goruchwylio ar unrhyw adeg.

Man casglu arbennig

Talu £1 am 20 munud i gasglu teithwyr yn y maes parcio arhosiad byr, wrth ymyl y derfynfa.

Gellir talu yn y derfynfa gyrraedd neu ar y peiriant talu yn y maes parcio.

Ar ôl 20 munud bydd prisiau parcio arferol yn dod i rym.

 

Gollwng a chasglu AM DDIM

20 munud AM DDIM i ollwng, casglu a pharcio yn Arhosiad Hir 1.

Mae’r maes parcio o fewn ychydig funudau ar droed i'r derfynfa, neu mae bws gwennol AM DDIM yn rhedeg bob chwarter awr i gludo teithwyr i'r derfynfa. Mae cerbyd cymorth arbennig hefyd ar gael ar gyfer teithwyr â symudedd cyfyngedig.

Ar ôl 20 munud bydd prisiau parcio arferol yn dod i rym. Gellir talu yn y derfynfa gyrraedd neu ar y peiriant talu yn y maes parcio.

 

Cliciwch yma i weld cynllun o'r meysydd parcio a'r ardaloedd gollwng a chasglu.

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am barcio yn y maes awyr.